Mae tîm criced Morgannwg yn cynnal gêm Bencampwriaeth yng Nghasnewydd am y tro cyntaf ers 1965 yr wythnos hon, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerloyw i Barc Spytty.

Ar ôl ymgyrch siomedig yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, bydd y ddau dîm yn gobeithio adeiladu momentwm wrth droi eu sylw at y fformat hir, ar ôl sicrhau gêm gyfartal yr un yng ngemau cynta’r tymor.

Roedd yr ornest ddiwethaf rhwng y ddwy sir yng Nghasnewydd yn un hynod gyffrous, wrth i Wally Hammond daro 302 i Swydd Gaerloyw, cyn i Emrys Davies ymateb gyda 287 heb fod allan i achub y gêm i Forgannwg.

Roedd sgôr Emrys Davies yn record i Forgannwg tan 2000, pan sgoriodd Steve James 309 heb fod allan yn erbyn Sussex yn Llandrillo-yn-Rhos.

Cynhaliodd Morgannwg 27 o gemau dosbarth cyntaf yng Nghasnewydd rhwng 1935 a 1965, gyda’r olaf ohonyn nhw’n ornest gyfartal yn erbyn Swydd Warwick.

Cynhaliodd y Cymry dair gêm undydd yn y ddinas rhwng 1988 a 1990, gan guro Swydd Derby yn 1988 a cholli yn erbyn Swydd Gaerloyw yn 1989, ond cafodd yr ornest yn erbyn Swydd Efrog yn 1990 ei chanslo oherwydd y glaw.

Y tro diwethaf i Swydd Gaerloyw chwarae mewn gêm pedwar diwrnod yng Nghasnewydd yn 1956, enillon nhw o 37 rhediad.

Ar eu hymweliad diwethaf â Sir Fynwy, torrodd Andrew Symonds record y byd wrth daro 20 chwech mewn batiad.

Y timau

Mae Morgannwg wedi cyhoeddi un newid i’r garfan, gyda’r chwaraewr amryddawn Jeremy Lawlor yn cymryd lle Kiran Carlson, sydd ynghanol ei arholiadau yn y brifysgol.

Mae’r bowliwr cyflym Michael Hogan yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

O safbwynt y Saeson, mae’r bowliwr cyflym David Payne wedi gwella o anaf i’w droed.

Mae Dan Worrall, y bowliwr cyflym o Awstralia, allan am weddill y tymor ar ôl cael anaf yn ei gêm ddiwethaf.

Morgannwg: C Cooke (capten), D Lloyd, M Labuschagne, C Hemphrey, N Selman, T van der Gugten, M de Lange, K Bull, J Lawlor, B Root, G Wagg

Swydd Gaerloyw: C Dent (c), M Hammond, J Bracey, G Hankins, B Howell, G Roderick, R Higgins, G van Buuren, D Payne, M Taylor, J Taylor,

Sgorfwrdd