Mae tîm criced Morgannwg wedi ennill am y tro cyntaf eleni, wrth guro Surrey o 64 rhediad yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Tarodd Billy Root 113 heb fod allan, ac fe gafodd e gefnogaeth Marchant de Lange, a sgoriodd 58 heb fod allan, ei sgôr gorau erioed wrth i Forgannwg sgorio 323 am saith.

Bowliodd Marchant de Lange yn gampus hefyd, gan gipio pedair wiced am 63 wrth i Surrey gael eu bowlio allan am 259 mewn 46.4 o belawdau.

Dechrau da

Ar ôl galw’n gywir, fe wnaeth Surrey wahodd Morgannwg i fatio ac roedd yn ymddangos yn benderfyniad doeth wrth i’r Saeson gipio dwy wiced gynnar oddi ar fowlio Morne Morkel.

Tarodd y bowliwr cyflym o Dde Affrica goes Marnus Labuschagne cyn bowlio’r capten Chris Cooke i adael y Cymry’n saith am ddwy o fewn tair pelawd. Gorffennodd y bowliwr gyda thair wiced yn ei ddeg pelawd.

Yn ôl eu harfer, fe fu’n rhaid i’r batwyr yng nghanol y rhestr achub Morgannwg.

Sgoriodd Billy Root 113 heb fod allan oddi ar 115 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys 11 pedwar ac un chwech, wrth iddo gael ei gefnogi gan David Lloyd a Charlie Hemphrey, a darodd 31 yr un.

Yn niwedd y batiad, tarodd Graham Wagg 30 cyn i Marchant de Lange ymosod wrth sgorio 58 heb fod allan, ei sgôr gorau erioed, oddi ar 35 o belenni, gan gynnwys pedwar pedwar a phum chwech.

Roedd partneriaeth Billy Root a Marchant de Lange yn werth 113 oddi ar 11.3 o belawdau.

Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd 323 oddi ar eu 50 pelawd i roi Surrey dan bwysau cyn dechrau’r batiad.

Gormod i’r Saeson

A pharhau i bwyso ar yr ymwelwyr wnaeth bowlwyr Morgannwg, wrth iddyn nhw gipio pedair wiced o fewn pum pelawd gynta’r batiad.

Cipiodd Marchant de Lange dair ohonyn nhw, a Michael Hogan yn cipio’r llall i adael Surrey yn 28 am bedair ar ôl colli Will Jacks, Mark Stoneman, Rory Burns a Dean Elgar.

Daeth elfen o barchusrwydd i’r batiad wrth Jamie Smith, batiwr 18 oed, sgorio 34 mewn partneriaeth o 64 gyda Ben Foakes, cyn cael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg am 34.

Dychwelodd Ben Foakes i’r pafiliwn yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan Marchant de Lange oddi ar fowlio Graham Wagg am 35, wrth yrru ar ochr y goes i adael Surrey yn 109 am chwech.

Er bod gobeithion yr ymwelwyr yn pylu, daeth sefydlogrwydd unwaith eto wrth i Jordan Clark a Stuart Meaker ddod ynghyd am y seithfed wiced, ac adeiladu partneriaeth o 107. Ond cafodd Jordan Clark ei ddal gan Timm van der Gugten wrth fachu pelen fer gan Marchant de Lange ar 35, a Surrey erbyn hynny’n 216 am saith a’r bowliwr wedi gorffen gyda phedair wiced.

Penderfynodd Stuart Meaker a Conor McKerr glatsio yn y deg pelawd olaf gyda nod o 107 oddi ar 60 o belenni ola’r batiad, ac fe gyrhaeddodd Stuart Meaker ei hanner canred, ei sgôr gorau erioed mewn gêm Restr A, cyn cael ei ddal yn tynnu Timm van der Gugten i Charlie Hemphrey ar y ffin.

Roedd Surrey, felly, yn 252 am wyth gydag ychydig dros bum pelawd yn weddill, cyn i Gareth Batty dynnu pelen gan Graham Wagg i Marnus Labuschagne ar y ffin, a’r sgôr yn 256 am naw.

Daeth yr ornest i ben pan gafodd Morne Morkel ei redeg allan mewn ffordd ryfedd, wrth i’r bowliwr wyro’r bêl tuag at y wiced oddi ar ergyd y batiwr.