Mae Morgannwg wedi sicrhau eu pwynt cyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, ar ôl i’w gêm yn erbyn Swydd Caint orffen yn ddi-ganlyniad oherwydd y glaw.

Mae’r canlyniad hefyd yn golygu bod y Saeson yn cipio pwynt am y tro cyntaf eleni.

Dechreuodd yr ornest, a gafodd ei chwtogi i 49 pelawd, am 11.25yb ar ôl i Forgannwg alw’n gywir a phenderfynu batio.

Ar ddiwedd y belawd gyntaf, datgymalodd Sam Billings, maeswr Swydd Caint, ei ysgwydd ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae ac fe fydd yn cael sgan yfory.

Collodd Morgannwg eu wiced gyntaf yn y bumed pelawd pan yrrodd Jeremy Lawlor belen, yn ei gêm Restr A gyntaf, at y maeswr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Harry Podmore.

Aeth y chwaraewyr oddi ar y cae oherwydd y glaw, a dychwelyd yn ddiweddarach gyda’r ornest wedi’i chwtogi ymhellach i 40 pelawd.

Rhagor o law

Pan ddaeth y chwaraewyr allan unwaith eto am 1.15yp, daeth Marnus Labuschagne a’r capten Chris Cooke allan i ymosod, cyn i Cooke gael ei ddal oddi ar fowlio Fred Klaassen am 21.

Ond daeth y glaw unwaith eto am 1.50yp, a phenderfynodd y dyfarnwyr mai digon oedd digon erbyn toc cyn 5 o’r gloch.

Bydd Morgannwg yn croesawu Surrey i Erddi Sophia ddydd Sul.