Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eu gêm 50 pelawd gyntaf o 180 o rediadau yn erbyn Eryr Essex yng Nghaerdydd.

Cawson nhw eu bowlio allan am 146 mewn 31 pelawd, wrth gwrso 327 i ennill.

Tarodd Varun Chopra 111 i’r ymwelwyr, a sgoriodd Tom Westley (69) a Dan Lawrence (56) hanner canred yr un wrth i’w tîm gyrraedd 326 am saith yn eu hanner can pelawd.

Collodd y Saeson eu pum wiced olaf o fewn chwe phelawd yn niwedd y batiad, wrth i Michael Hogan a Graham Wagg orffen gyda dwy wiced yr un.

Marchant de Lange, y bowliwr cyflym, oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 36, wrth i’r Cymry golli un wiced ar ôl y llall.

Roedden nhw’n 28 am dair o fewn 7.1 pelawd, ac fe wnaethon nhw barhau i golli wicedi’n gyson drwy gydol y batiad.

Dim ond pump o’r batwyr gyrhaeddodd ffigurau dwbl.

Cipiodd Ravi Bopara, y chwaraewr amryddawn, dair wiced am 26, ac roedd dwy wiced yr un i Simon Cook a Peter Siddle.

Bydd Morgannwg yn teithio i Southampton ddydd Gwener (Ebrill 19) i herio Hampshire.