Bydd Morgannwg yn herio Eryr Essex yn eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 17).

Gorffennodd eu gêm Bencampwriaeth gyntaf yn erbyn Swydd Northampton yn gyfartal ddi-ganlyniad yr wythnos ddiwethaf.

Mae Chris Cooke yn parhau’n gapten ar ôl disodli Colin Ingram ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac mae’r troellwr Andrew Salter a’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli gêm gynta’r tymor.

Mae Marnus Labuschagne, Billy Root a Kiran Carlson yn cadw eu llefydd ar ôl taro canred yr un yn y gêm Bencampwriaeth.

Mae’r gystadleuaeth eleni’n gyfle i Kiran Carlson serennu ar ôl bod allan am y rhan fwyaf o’r ymgyrch y tymor diwethaf yn sgil arholiadau yn y brifysgol.

“Mae’n dda cael rhediadau’n gynnar ond allwch chi ddim gorffwys ar eich rhwyfau,” meddai ar drothwy’r gystadleuaeth.

“Eleni, mae’r batwyr i gyd yn awchu ac am wthio tuag at 1,000 o rediadau yn ystod y tymor.

“Fe wnaethon ni osod y safon go iawn drwy gael sgôr mawr fel y gwnaethon ni yn y gêm [Bencampwriaeth].”

Gemau 50 pelawd diweddar

Y tro diwethaf i Essex ymweld â Chaerdydd ar gyfer gêm 50 pelawd ddwy flynedd yn ôl, tarodd Colin Ingram 142, cyn i Varun Chopra a Ravi Bopara adeiladu partneriaeth o 108 mewn 18 pelawd.

Doedd hynny ddim yn ddigon i’r Saeson, fodd bynnag, oedd yn cwrso saith rhediad yn y belawd olaf i ennill y gêm, wrth i Forgannwg gipio dwy wiced ac ennill o un rhediad.

Y tymor diwethaf yn Chelmsford, y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o naw wiced gyda deunaw pelawd yn weddill yn ystod tymor cythryblus i Forgannwg.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, K Carlson, M de Lange, C Hemphrey, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, C Meschede, B Root, A Salter, T van der Gugten, G Wagg

Carfan Eryr Essex: R ten Doeschate (capten), R Bopara, V Chopra, A Cook, S Cook, S Harmer, D Lawrence, A Nijjar, J Porter, M Quinn, P Siddle, P Walter, T Westley, R White

Sgorfwrdd