Mae’r tymor criced sirol yn dechrau i Forgannwg heddiw (dydd Iau, Ebrill 11), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i gae Gerddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth.

Fe fydd y Cymry’n awyddus i anghofio’r siom gawson nhw mewn gemau pedwar diwrnod y tymor diwethaf ac i’r perwyl hwnnw, mae ganddyn nhw brif hyfforddwr, cyfarwyddwr criced a chapten newydd, yn ogystal â nifer o wynebau newydd yn y garfan.

Mae Matthew Maynard, y prif hyfforddwr, a Mark Wallace, y cyfarwyddwr criced, yn arwain y tîm gyda’i gilydd am y tro cyntaf mewn gêm gystadleuol, a Chris Cooke yn eu harwain ar y cae ar ôl olynu Michael Hogan yn gapten mewn gemau pêl goch.

Tra mai hon yw gêm gyntaf Morgannwg y tymor hwn, mae Swydd Northampton eisoes wedi cael un gêm gyfartal yn erbyn Middlesex.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg a Swydd Northampton wedi herio’i gilydd mewn 146 o gemau dosbarth cyntaf ar hyd y blynyddoedd.

O blith y rheiny, fe fu Morgannwg yn fuddugol 41 o weithiau, a’r Saeson 49 o weithiau, gyda 56 gêm yn gorffen yn gyfartal a thair wedi dod i ben yn gynnar oherwydd y tywydd.

Y timau

Yng ngharfan 13 dyn Morgannwg am y tro cyntaf mae Billy Root, Charlie Hemphrey a Marnus Labuschagne.

Tra bod Billy Root wedi symud o Swydd Nottingham, mae Charlie Hemphrey yn ymuno o Awstralia a Marnus Labuschagne, batiwr rhyngwladol Awstralia, yn chwaraewr tramor dros dro yn absenoldeb Shaun Marsh yn ystod hanner cynta’r tymor.

Mae Marchant de Lange, y bowliwr cyflym o Dde Affrica, yn debygol o chwarae mewn gêm Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn.

O ran yr ymwelwyr, mae Luke Wood wedi’i alw’n ôl gan Swydd Nottingham ar ôl bod ar fenthyg.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Bull, L Carey, K Carlson, M de Lange, C Hemphrey, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, B Root, N Selman, T van der Gugten, G Wagg

Carfan Swydd Northampton: N Buck, J Cobb, B Curran, J Holder, R Keogh, R Levi, B Muzarabani, R Newton, L Procter, A Rossington, B Sanderson, R Vasconcelos, A Wakely (capten)

Sgorfwrdd