Mae Marnus Labuschagne, batiwr newydd Morgannwg, yn dweud bod yr Iaith Afrikaans yn dal yn rhan o’i fywyd bob dydd er ei fod yn byw yn Awstralia ers blynyddoedd.

Cafodd ei eni yn Ne Affrica i deulu sy’n rhugl yn yr iaith, ond symudodd y teulu i Awstralia pan oedd e’n ddeg oed ar ôl i’w dad gael gwaith yno.

Fe ddatblygodd ei sgiliau criced yn Queensland, lle aeth yn ei flaen i chwarae gydag Usman Khawaja a Joe Burns, dau arall sydd wedi cynrychioli Morgannwg dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond mae’n dweud bod yr iaith yn dal yn rhan o’i fywyd bob dydd, er ei fod e bellach yn briod â merch o Awstralia.

“Unwaith i ni symud, roedd yn fater o ymgyfarwyddo â diwylliant Awstralia fel plentyn yn tyfu i fyny, a wnes i fyth edrych yn ôl,” meddai wrth golwg360.

“Ond pan y’ch chi’n cael eich magu yn siarad yr iaith mor aml, mae’n ail natur i chi wedyn.

“Dw i’n dal i siarad Afrikaans, mae’n rhan o’m bywyd bob dydd erbyn hyn.

“Dw i’n briod â merch o Awstralia felly dydyn ni ddim yn ei siarad hi gartref ond pan dw i’n siarad â mam a dad, mae’n dueddol o lithro i mewn i’r sgwrs.”

Beth am siarad Cymraeg?

Ac yntau’n ymddiddori mewn iaith a ieithoedd, mae’n dweud ei fod yn ymwybodol o’r Gymraeg, a bod ganddo ddiddordeb i wybod mwy amdani.

“Yn sicr, hoffwn i ymchwilio iddi a gwybod mwy amdani, ond dw i ddim yn hollol sicr am ei dysgu a’i siarad hi eto!

“Dw i ddim yn gwybod a fyddwn i’n dda wrth ddysgu iaith arall.”

Mae’n dweud iddo gael croeso cynnes ers glanio yng Nghymru, yn union fel yr oedd yn ei ddisgwyl ar ôl clywed gan gydwladwyr fel Usman Khawaja pa mor braf yw bod yn y wlad ac yng Nghaerdydd.

“Ro’n i wedi cyffroi’n lan am gael dod yma.

“Chwaraeodd Usman Khawaja i Forgannwg y tymor diwethaf, ac mae Charlie Hemphrey newydd ymuno â Morgannwg, felly roedd y bois yn dweud pethau da am y lle, ac felly roedd yn hawdd symud ar ôl cael clywed cymaint am y clwb.”

Ei rôl yn y tîm

Ac yntau’n batio’n uchel yn y batiad ac yn gallu troi ei law at fowlio, mae’n dweud ei fod yn awyddus i gyfrannu mewn unrhyw ffordd bosib i’r tîm yn ystod hanner cynta’r tymor yn absenoldeb Shaun Marsh.

“Dw i wedi cyffroi o gael y cyfle i ffitio i mewn yn unrhyw le,” meddai.

“Bydda i’n cyfrannu gyda’r bat a’r bêl, ac yn helpu i ffeindio ffyrdd o ennill gemau.

 

“Fel cricedwr, rydych chi bob amser eisiau rhoi her i chi eich hun mewn amodau gwahanol, ac ro’n i’n meddwl bod yna ffordd o wneud hynny yn fan hyn, ac mewn amodau anodd ar ddechrau’r tymor.

“Mae’r amodau wedi bod yn hyfryd – glaw yn y boreau ond yn hyfryd erbyn amser cinio, ond wedyn yn bwrw eto!

“Bydd angen i fi ymgyfarwyddo’n gyflym, a bydd addasu ar gyfer batio yn yr oerfel yn dipyn o her.

“Lle dw i’n dod, yn agos i gae’r Gabba [yn Brisbane], mae’n debyg nad yw’r tymheredd yn gostwng yn is na 30 gradd, felly mae gyda fi her hollol wahanol fan hyn!”

Morgannwg v Prifysgolion Caerdydd yr MCC

Mae Marnus Labuschagne wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer yr ornest baratoadol olaf cyn dechrau’r tymor sirol.

Maen nhw’n herio Prifysgolion Caerdydd yr MCC mewn gornest sy’n dechrau heddiw ac a fydd yn para tridiau yng Ngerddi Sophia.

Yng ngharfan Prifysgolion Caerdydd yr MCC mae dau o chwaraewyr sydd wedi chwarae i dîm cyntaf Morgannwg, sef Kiran Carlson a Prem Sisodiya.

Carfan Morgannwg: D Lloyd, J Murphy, C Hemphrey, M Labuschagne, B Root, N Selman, C Cooke (capten), C Meschede, G Wagg, K Bull, T van der Gugten, L Carey, M Hogan

Carfan Prifysgolion Caerdydd yr MCC: S Pearce (capten), T Bevan, K Carlson, D Douthwaite, B Evans, J Gibbs, S Jaspal, O Kolk, J Ludlow, L Machado, S Reingold, P Sisodiya, J Voke