Mae Chris Cooke, capten tîm criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth a’r gystadleuaeth 50 pelawd, yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen at yr her newydd” o arwain y sir.

Fe fu’n siarad â golwg360 ar drothwy gêm gynta’r tymor, yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC, sy’n dechrau ddydd Gwener (Ebrill 5).

“Mae’n her cwbwl newydd fi,” meddai. “Mae’n rhywbeth y bydd rhaid i fi ddysgu wrth fynd ymlaen, ond mae yna hyfforddwyr da o’m cwmpas gyda Matt [Maynard] a Wally [Mark Wallace], a galla i ddysgu oddi wrthyn nhw.

“Fe fydd golwg ffres gyda fi ar bethau. Fe fydd e’n her, ond gobeithio y bydd yn her sy’n dod â’r gorau allan ohonof fi, a gobeithio y galla i adael y clwb mewn gwell sefyllfa nag y mae wrth i fi gymryd drosodd.”

Dulliau arwain

Yn debyg i’w ragflaenydd Michael Hogan, mae Chris Cooke yn gymeriad tawel sy’n arwain drwy esiampl fel batiwr a wicedwr.

“Gobeithio y galla i fod yn hamddenol ond gonest gyda’r chwaraewyr, a chadw’r drws ar agor fel bod y chwaraewyr yn teimlo y gallan nhw ddod ata’ i, a chyfathrebu gyda’r chwaraewyr i gyd yn y garfan.

“Gobeithio y galla i arwain ar flaen y gad gyda’r bat a gosod esiampl, am wn i.”

Ac yntau’n batio yng nghanol y rhestr fatio ac yn cadw wiced, mae’n dweud y bydd yn “her” cadw cydbwysedd rhwng ei gyfrifoldebau.

“Mae’n mynd i fod yn her ond o safbwynt edrych ar y gêm, golwg y wicedwr sydd orau, mae’n siŵr. Mae hynny’n beth positif ac yn her.”

Wynebau newydd

Yn dilyn diswyddo Robert Croft a hollti swydd Hugh Morris, y prif weithredwr a chyfarwyddwr criced, yn ddwy ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae gan Forgannwg dîm hyfforddi newydd.

Matthew Maynard yw’r prif hyfforddwr dros dro, a Mark Wallace yw’r cyfarwyddwr criced newydd, ac mae cael gweithio gyda hoelion wyth y sir at ddant y capten.

“Maen ganddyn nhw barch pob un o’r chwaraewyr ac fel wicedwr sy’n batio, mae’n wych i fi gael dysgu oddi wrthyn nhw.

“Dw i’n credu bod gyda ni ffordd debyg o edrych ar y gêm, a sut ddylen ni chwarae’r gêm. Gobeithio y byddwn ni’n ymosodol.

“Mae’r ddau wedi setlo’n dda ac mae’n help mawr pan y’ch chi ymhlith y mawrion a’ch bod chi’n cael eich parchu.”

O ran y chwaraewyr newydd, mae Billy Root wedi symud o Swydd Nottingham a Charlie Hemphrey wedi ymuno o Queensland yn Awstralia. Mae Marnus Labuschagne yn ymuno dros dro yn hanner cynta’r tymor.

Gobaith Morgannwg yw y bydd Shaun Marsh yn dychwelyd am ail hanner y tymor os nad yw’n cynrychioli Awstralia yng Nghwpan y Byd a’r Lludw.

“Mae Billy wedi setlo’n dda, fel pe bai e wedi bod gyda ni am sawl tymor. Bydd e’n dod â deinameg gwahanol i’r tîm, yn chwaraewr undydd da ac mae ganddo bwynt i’w brofi mewn criced pedwar diwrnod.

“Dw i ddim yn gwybod llawer am Charlie na Marnus, ond mae’r ddau, yn enwedig Marnus, yn dechrau ar eu gyrfaoedd yma gyda phwynt i’w brofi.

“Mae Marnus yn uchelgeisiol ond heb fod yn enw cyfarwydd, ond dw i’n credu y bydd e’n ysu i ddechrau arni a gobeithio y bydd hynny’n dylanwadu ar weddill y tîm.”

Anghofio am y tymor siomedig yn 2018

Mae Chris Cooke yn cyfaddef fod y tymor siomedig yn 2018 wedi deffro’r garfan a’i fod yn ffon fesur dda o ran eu datblygiad ers hynny.

“Fe gawson ni gystadleuaeth 50 pelawd siomedig y llynedd, a dydy pethau ddim yn newid dros nos. Mae’n mynd i gymryd tipyn o waith caled gan bawb i ddychwelyd i le’r ydyn ni am fod.”

Fe fu’r daith i La Manga yn Sbaen yn ddiweddar yn gymorth i ddechrau ar y gwaith hwnnw, meddai.

“Batiodd pobol fel Owen Morgan yn dda iawn ac roedd yna nifer o berfformiadau cryf fel arall.

“Roedd yna lawer o bethau da i gymryd allan o’r daith [er gwaethaf colli pob gêm yn erbyn Swydd Caerloyw].

“Roedd y gêm fewnol yn y garfan gawson ni’n ddiweddar o safon uchel iawn, felly fe allwch chi weld ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad cywir. Dw i jyst eisiau i ni chwarae criced gwell, heb fod gyda ni ormod o dargedau.

“Mae’n amlwg ein bod ni’n dîm ugain pelawd da, ac ry’n ni am adeiladu ar hynny, ond o safbwynt gemau 50 pelawd a’r Bencampwriaeth, ry’n ni am chwarae’n well a sicrhau bod y cefnogwyr yn mwynhau. Os gallwn ni gael drwodd i gêm derfynol neu ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor, gorau oll.”