Yr Awstraliad Marnus Labuschagne yw chwaraewr tramor Clwb Criced Morgannwg am hanner cynta’r tymor hwn yn absenoldeb Shaun Marsh.

Bydd y batiwr 24 oed ar gael ar gyfer Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, a rhan gynta’r Bencampwriaeth.

Gyrfa

Fe wnaeth ei enw yn nhîm ieuenctid Queensland, a chwarae i’r dalaith am y tro cyntaf yn 2014, gan daro 83 yn erbyn De Awstralia.

Roedd e’n chwarae yn y tîm hwnnw gyda Charlie Hemphrey, sydd hefyd yn ymuno â Morgannwg y tymor hwn.

Mae e wedi taro pedwar canred mewn gemau dosbarth cyntaf, a’i sgôr gorau yw 134.

Mewn gemau undydd, mae ganddo fe gyfartaledd o fwy na 38, ac wedi sgorio wyth hanner canred mewn 19 o fatiadau.

Yn droellwr coes hefyd, mae e wedi cipio 28 o wicedi.

Bydd y tymor dosbarth cyntaf yn dechrau i Forgannwg gyda gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton ar Ebrill 11.

Mae e wedi chwarae mewn pum gêm brawf i Awstralia, gan sgorio 81 yn erbyn Sri Lanca, ac wedi cipio naw wiced ar gyfartaledd o 27.

Ymateb i’r cyhoeddiad

 “Dw i wedi bod eisiau chwarae criced sirol erioed a phrofi fy hun mewn amodau gwahanol ac mewn amgylchfyd newydd, felly dw i wrth fy modd o gael arwyddo i Forgannwg,” meddai Marnus Labuschagne.

“Dw i’n deall fod y tymor diwethaf wedi bod yn un anodd i’r clwb, ond gobeithio y galla i fwrw iddi a pherfformio’n dda i gael dechrau drwy ennill.

“Dw i wedi clywed pethau gwych am y clwb gan nifer o’r chwaraewyr dw i eisoes yn eu hadnabod, a dw i wir yn edrych ymlaen at chwarae gyda fy nghyd-chwaraewyr newydd, gan gynnwys Charlie [Hemphrey].

“Dw i wedi chwarae gyda fe yn Queensland dros y tymhorau diwethaf.

“Byddai’n braf gwneud gwahaniaeth go iawn i’r clwb ar y cae ac oddi arno.”

“Roedd yn flaenoriaeth i ni gael chwaraewr tramor i mewn yn lle Shaun Marsh, ac mae cael chwaraewr o safon Marnus yn ystod hanner cynta’r tymor yn hwb sylweddol i’r garfan.

“Mae e’n gricedwr ifanc, dawnus ac uchelgeisiol sydd wedi dangos ei safon mewn criced domestig a rhyngwladol, ac mae ganddo fe’r union gymeriad rydyn ni eisiau ei gael yn yr ystafell newid.

“Mae e hefyd yn chwaraewr sydd â sawl dimensiwn gwahanol, sy’n gallu batio ar frig y rhestr, cipio wicedi pwysig fel troellwr coes ac arwain wrth faesu.

“Dydy sicrhau gwasanaeth chwaraewr rhyngwladol yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd ddim yn hawdd, felly mae’n wych ein bod ni wedi gallu sicrhau gwasanaeth Marnus.”

Byw a bod yng Nghymru

Mae Marnus Labuschagne hefyd yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at fyw yng Nghaerdydd a Chymru.

“Mae pawb wedi dweud wrtha’i pa mor hyfryd yw’r ddinas a pha mor gyfeillgar a chroesawgar yw’r bobol, felly dw i’n cyffroi cyn cyrraedd yno, ac yn edrych ymlaen at ddechrau arni a chyfrannu at y clwb.”