Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, yn dweud bod y penderfyniad i ymestyn cytundeb Colin Ingram ar gyfer y gemau undydd yn un “hawdd”.

Ac mae capten y tîm mewn gemau ugain pelawd yn dweud fod Cymru’n “ail gartref” iddo fe a’i deulu erbyn hyn.

Mae’r cytundeb newydd yn cadw’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica gyda’r sir tan o leiaf 2021, chwe blynedd ar ôl iddo symud i Gymru fel chwaraewr Kolpak.

Bydd e’n parhau i chwarae yn y gemau 50 pelawd yng Nghwpan Royal London, ac arwain y sir yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

“Dw i’n hapus iawn o gael dychwelyd i Forgannwg,” meddai Colin Ingram wrth golwg360. “Dw i wedi dod o hyd i fy ail gartref, ac mae fy nghriced wedi ffynnu.

“Dw i wedi dod yn rhan o’r clwb a Chaerdydd a phobol Cymru sy’n llawn ysbryd a chynhesrwydd.

“Gobeithio y galla i dreulio mwy o amser o lawer yng Nghaerdydd a chynnig mwy ohonof fi fy hun i’r clwb. Dw i a fy nheulu wrth ein boddau o gael bod yn rhan o Forgannwg, a gobeithio y byddwn ni’n gallu chwarae rhan am flynyddoedd i ddod.”

Canolbwyntio ar gemau undydd

Mae’n dweud bod y cytundeb sy’n canolbwyntio ar gemau undydd yn unig yn ei alluogi i gael blas ar chwarae criced ar draws y byd.

“Gyda chriced rhyngwladol wedi dod i ben i fi, fe fu’n braf gallu datblygu fy ngêm a phrofi heriau newydd wrth ennill bywoliaeth dda. Dw i’n ddiolchgar iawn i Forgannwg am y cyfle.

“Un o’r manteision eraill yw ei fod yn llai o straen ar y corff – dw i ddim yn mynd yn iau, a dw i am barhau i chwarae am nifer o flynyddoedd eto.”

Mae’n dweud bod ganddo fe lygad ar dlws y Vitality Blast gyda Morgannwg y tymor hwn, ar ôl llwyddo i gyrraedd Diwrnod y Ffeinals ddwy flynedd yn ôl.

“Dw i’n teimlo fy mod i wedi cael fy ngeni er mwyn chwarae criced â’r bêl wen yng ngwledydd Prydain. Dw i wedi cael nifer o flynyddoedd da, a byddwn i wrth fy modd yn ennill y Blast gyda Morgannwg.

“Yn y cyfamser, dw i eisiau datblygu ein brand cyffrous o griced a pharhau i greu uned solet o fewn y tîm y gallwn ni a’n cefnogwyr fod yn falch ohono. Ar ddiwedd y dydd, fy nod yw ennill y T20 Blast yn hwyr neu’n hwyrach.”

‘Chwaraewr enfawr’

“Mae e’n chwaraewr enfawr i ni,” meddai Mark Wallace wrth golwg360. “Nid yn unig mae e’n gapten yn y T20, ond mae e hefyd wedi dangos yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb pa mor dda yw e fel chwaraewr.

“Mae e’n un o’n hoelion wyth ni, a fwy na thebyg yn un o’r chwaraewyr gorau sydd i’w cael mewn gemau ugain pelawd. Ry’n ni’n lwcus iawn o’i gael e.”

Mae e wedi bod yn brif sgoriwr y sir mewn gemau undydd bob tymor ers hynny, gan sgorio dros 1,770 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 41, gan daro tri chanred.

Enillodd ei gap yn 2017, ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr Gemau Undydd y Flwyddyn y tymor hwnnw.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Undydd y Flwyddyn unwaith eto y tymor diwethaf, ar ôl sgorio 430 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 53 yn y Vitality Blast, a 402 o rediadau mewn wyth gêm yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.

Mae e’n chwaraewr blaenllaw ar draws y byd mewn gemau ugain pelawd, gan chwarae i’r Adelaide Strikers yn Awstralia a’u harwain nhw y tymor hwn yn y Big Bash.

Mae e’n chwarae i’r Karachi Kings yn y PSL ym Mhacistan ar hyn o bryd ac yn ddiweddar, sgoriodd e 127 heb fod allan oddi ar 59 o belenni – y sgôr gorau erioed yn y gystadleuaeth.

Bydd e’n cynrychioli’r Delhi Capitals yn yr IPL yn India y tymor hwn cyn dychwelyd i Forgannwg.

‘Ystadegau anhygoel’

“Mae ei ystadegau mewn criced 50 pelawd yn anhygoel ac mae e’n dda iawn mewn gemau T20 hefyd,” meddai Mark Wallace.

“Mae e jyst wedi bod yn gaffaeliad arbennig ers iddo fe ddod yma. Roedd hyn yn eithaf hawdd – roedd e eisiau aros, ac roedden ni eisiau ei gadw fe.”

Mewn oes pan fo chwaraewyr yn teithio’r byd i hel eu ffortiwn mewn gemau ugain pelawd, mae Mark Wallace yn sylweddoli pa mor ffodus yw Morgannwg o gael Colin Ingram am ran sylweddol o’r tymor.

“Mae chwaraewyr mor gyfarwydd bellach â theithio’r byd, felly mae’r cysyniad fod cricedwr yn chwarae ei holl griced gydag un clwb, fel y gwnes i, yn un hen ffasiwn erbyn hyn.”

Ond eto, mae Mark Wallace yn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ei ysgwyddau ac yntau’n berfformiwr cyson dros y tymhorau diwethaf.

“Y disgwyl yw ei fod e’n mynd allan ar y cae ac ennill pob gêm i ni,” meddai. “Mae e’n berfformiwr rhagorol i ni, ond rhaid i ni sicrhau bod y bois eraill yn sefyll i fyny ac yn ennill gemau i ni hefyd.”