Mae’n newyddion “gwych” fod Andrew Salter, y troellwr o Sir Benfro, wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg tan 2021, meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced y sir.

Bydd y cytundeb newydd yn ei gadw gyda’r clwb tan 2021.

Mae e wedi chwarae mewn bron i 150 o gemau ers 2012, pan gipiodd e wiced Shiv Thakor gyda’i belen gyntaf i’r sir.

Roedd e’n aelod o’r garfan a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Yorkshire Bank40 yn 2013, gan gipio dwy wiced am 41 yn erbyn Swydd Nottingham yn Lord’s.

Y tymor diwethaf, cipiodd e 11 wiced yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, a hynny ar gyfartaledd o 25.91 y wiced.

‘Dyma ei flwyddyn’

“Mae Andrew yn chwaraewr deinamig ac fe all chwarae yn y tri fformat, ac eleni yw’r amser iddo ddefnyddio’i brofiad a dod yn brif droellwr, prif chwaraewr amryddawn, fel rydyn ni’n gwybod y gall fod,” meddai Mark Wallace.

Ond fe fydd e’n wynebu cryn gystadleuaeth ymhlith y troellwyr eraill, Prem Sisodiya, Kieran Bull ac, o bosib, Owen Morgan.

“Mae’n anodd bod yn droellwr yn y wlad hon,” meddai Mark Wallace.

“Cysondeb yw’r peth, a chael pelawdau y tu cefn i chi, a dyna’r her i Andrew nawr.

“Mae’n faes lle mae gyda ni dipyn o gryfder o dan y wyneb.

“Mae Andrew fwy na thebyg ar y blaen ar hyn o bryd yn nhermau profiad, felly mae cael ei lofnod e ar bapur yn wych.”