Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr dros dro Clwb Criced Morgannwg, yn dweud y byddai’n “gwneud unrhyw beth dros y clwb”.

Fe fu’n siarad â golwg360 yn dilyn y newyddion y bydd e’n aros yn y swydd tan ddiwedd y tymor hwn, ar ôl cael ei benodi dros dro ar ôl i Robert Croft gael ei ddiswyddo ar ddiwedd tymor siomedig 2018.

“Dw i wrth fy modd,” meddai. “Mae’r clwb wedi bod yn agos iawn at fy nghalon am amser hir.

“Wnes i fwynhau’r hyn wnes i’r tymor diwethaf, sef gweithio efo’r garfan a chael dychwelyd i’r clwb a dod i adnabod yr hogiau ychydig yn well.”

Fe fydd yn cymryd yr awenau am dymor, gyda’r broses o recriwtio olynydd parhaol i Robert Croft yn dechrau cyn y tymor nesaf. Pe na bai’n cael ei benodi’n barhaol, fe fydd e’n cael dychwelyd i’w swydd flaenorol yn ymgynghorydd batio’r sir.

“Dw i’n helpu’r clwb. Fe wnawn i unrhyw beth dros y clwb yma. Ond mi fydd [y swydd ymgynghori] yn rhoi ychydig mwy o sicrwydd i mi hefyd.”

Paratoi’r garfan dros y gaeaf

Matthew Maynard fu’n gyfrifol ers sawl tymor am lunio rhaglen ymarfer y garfan dros fisoedd y gaeaf, ac mae’n gweld rôl y prif hyfforddwr fel cyfle i ddatblygu ar y gwaith hwnnw.

“Ges i’r neges gen [y prif weithredwr] Hugh Morris i drefnu’r rhaglen fel pe bawn i’n mynd i fod yn arwain y clwb drwy gydol yr haf,” meddai.

“Paid â’i wneud o fel mae o wedi cael ei wneud, ond fel rwyt ti’n credu y dylai gael ei wneud pe baet ti wrth y llyw haf nesa’,” oedd neges Hugh Morris wrth drafod y trefniadau ar gyfer y tymor nesaf.

“Ges i neges glir iawn gen Hugh ym mis Tachwedd. Mae cael symud pethau yn eu blaenau tan ddiwedd y tymor yn wych o’m safbwynt i, a gobeithio o safbwynt y chwaraewyr hefyd.”

Y bobol iawn ar y tîm hyfforddi?

Wrth i’r clwb baratoi ar gyfer y tymor newydd, mae ganddyn nhw wynebau newydd yn y swyddi.

Yn ogystal â Matthew Maynard yn lle Robert Croft, mae’r cyn-gapten Mark Wallace wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Criced yn lle Hugh Morris, sy’n parhau’n brif weithredwr.

Yn sgil y wynebau cyfarwydd, gyda Matthew Maynard, Mark Wallace, Steve Watkin, Adrian Shaw a David Harrison i gyd yn gyn-chwaraewyr, mae’r clwb wedi’u cyhuddo o roi swyddi i gyn-chwaraewyr ar blât.

Er bod Matthew Maynard yn cydnabod y ffaith, mae’n dweud bod yr hyfforddwyr yn deilwng o’r swyddi.

“Mae o’n un anodd, oherwydd mae o’n ffaith,” meddai. “Ond yn y gorffennol, rydan ni wedi cael pobol o’r tu allan a dydan nhw ddim wedi llwyddo.

“Os ydi’r clwb yn teimlo ar ddiwedd y tymor fod gynnon ni’r bobol iawn yn y swyddi, yna dw i’n siŵr y bydd pethau’n parhau fel ag y maen nhw. Os na, mae’n siŵr y bydd [Mark Wallace] yn newid pethau.”

Targedau

Bod yn fwy cyson o ran perfformiadau yw un o brif dargedau Matthew Maynard ar gyfer y tymor newydd.

Cafodd y tîm dymor digon siomedig yn y Bencampwriaeth, ac mae lle i wella yn y gemau undydd, er bod Matthew Maynard yn teimlo bod seiliau cadarn ar gyfer y gystadleuaeth ugain pelawd.

Ac er ei fod e’n cydnabod nad yw Morgannwg ymhlith y siroedd gorau yn yr un o’r cystadlaethau, mae’n dweud mai anelu i fod “y gorau o blith y gweddill” fydd y nod.

“Os ydach chi’n gneud hynny, dydach chi byth yn gwybod beth allai ddigwydd, felly mae angen i hynny fod yn darged realistig.

“O safbwynt ein perfformiadau mewn gemau 50 pelawd, mi welwch chi ddull newydd wrth chwarae yn y fformat yma, a dw i’n disgwyl canlyniadau gwell.”