Mae Charlie Hemphrey yn dweud na fyddai wedi cael y cyfle i symud i Forgannwg ar gyfer tymor 2019 oni bai am alwad ffôn pan oedd e’n gweithio i gwmni awyrennau Virgin i gynrychioli tîm criced Queensland bedair blynedd yn ôl.

Yn enedigol o Doncaster yn Swydd Efrog, fe gafodd y chwaraewr sydd bellach yn 29 oed ei wrthod gan Swydd Caint dair gwaith a hefyd gan Swydd Derby ac Essex cyn penderfynu symud i fyw i Brisbane yn Awstralia.

Roedd e’n ennill bywoliaeth yn “taflu bagiau” ar awyrennau ym maes awyr y ddinas, ac yn chwarae criced i glwb lleol pan gafodd ei alw i garfan Queensland.

“Ro’n i’n 25 oed ac yn credu bod y cyfle i chwarae criced proffesiynol wedi mynd heibio,” meddai wrth golwg360.

“Ro’n i’n ffodus ’mod i’n sgorio digon o rediadau lleol, a doedd Queensland ddim yn arbennig o gryf o safbwynt batwyr.

“Roedd y dewiswyr yn hoffi’r hyn welson nhw, ac fe wnaethon nhw fy nhaflu i mewn a dyma ni heddiw, bedair blynedd yn ddiweddarach. Ro’n i’n sicr yn credu ’mod i wedi colli’r cyfle i chwarae criced sirol.

“Ro’n i’n 19 oed pan ges i fy rhyddhau gan Swydd Caint, felly byddai hi’n braf cael llwyddiant gyda Morgannwg o safbwynt personol.

“Wedi dweud hynny, mae’r hyn dw i wedi ei gyflawni yma [yn Awstralia] yn dda hefyd. Ond does dim pwrpas bodloni ar hynny chwaith. I fi, y peth pwysig yw gwella a chyfrannu at ennill gemau i Queensland ac i Forgannwg.

“Er ’mod i’n 29 oed, dw i’n dal yn ifanc yn nhermau gyrfa fel cricedwr.”

Gwylio’r goreuon yn Awstralia

Ac yntau wedi treulio sawl haf ar hyd y blynyddoedd yn chwarae ar lefel clybiau yn Awstralia, fe ddaeth y cyfle wrth gynrychioli Queensland i chwarae yn yr un tîm ag Usman Khawaja, a dreuliodd gyfnod gyda Morgannwg y tymor diwethaf.

Ac yn ôl Charlie Hemphrey, roedd anogaeth ei gyd-chwaraewr yn un o’r rhesymau dros symud i Gymru.

“Y llynedd, roedd Ussie (a Joe Burns) yno. Ac roedd e’n canu clodydd y lle, y tîm a’r holl awyrgylch.

“Yn amlwg, roedd y tymor diwethaf yn un anodd i Forgannwg o safbwynt y canlyniadau, ond nid dim ond Morgannwg oedd hynny. Roedd yn wir ar draws y siroedd i gyd.”

Ei rôl yn y tîm

Ac yntau fel arfer yn fatiwr rhif pedwar, gall Charlie Hemphrey fatio yn unrhyw le ymhlith y safleoedd batio.

“Dywedodd Morgannwg o’r dechrau’n deg eu bod nhw am ychwanegu ambell chwaraewr at frig y drefn fatio ac fe welais i’r ymdrech wnaethon nhw dros gyfnod o fisoedd i fy nenu i yma. Roedd hynny’n wych.”

Ac mae’n dweud bod cael y cyfle i gydweithio â Matthew Maynard, y prif hyfforddwr dros dro, yn rheswm arall dros ddod i Forgannwg.

“Dw i erioed wedi cyfarfod â fe ond mae pawb dw i wedi siarad â nhw yn uchel eu parch ato fe fel hyfforddwr batio. Bydd yn wych cael gweithio gyda rhywun fel fe er mwyn gwella.”

Heriau

Er ei gyffro amlwg ar drothwy’r tymor newydd, mae’n dweud y bydd heriau’n ei wynebu wrth symud i Gymru.

“Bydd y lleiniau yn gynnar ym mis Ebrill yn amlwg ychydig yn wahanol.

“Bydd rhaid i fi gael cymaint o gyngor â phosib a siarad â chynifer o bobol ag y galla i, a rhoi ar waith yr ymarfer y bydda i wedi’i gael cyn dechrau’r tymor.

“Ond dw i’n barod i berfformio’n dda a gyda’r bowlwyr da sydd gyda ni, ac os gallwn ni roi rhediadau ar y bwrdd ar eu cyfer nhw, gallai fod yn flwyddyn dda iawn.”

‘Rydyn ni am godi safonau’

Wrth groesawu Charlie Hemphrey i Gymru, mae Hugh Morris, prif weithredwr Morgannwg, yn dweud bod y sir am godi eu safonau yn 2019 ar ôl tymor siomedig y llynedd.

“Mae e’n creu cystadleuaeth ar frig y drefn fatio, a dyna’n union sydd ei angen arnon ni,” meddai.

“Mae angen i ni godi ein safonau, gan ein bod ni’n hynod siomedig gyda’r canlyniadau y tymor diwethaf. Rydyn ni am wella, a gall Charlie chwarae rhan bwysig yn hynny o beth.”

Rhan o’r broblem y tymor diwethaf oedd y diffyg profiad ymhlith y batwyr, ond mae Charlie Hemphrey yn ychwanegu rhywfaint o brofiad at y garfan.

“Pan oedden ni’n ymwybodol fod Charlie eisiau troi ei law at griced sirol ar ôl perfformiadau clodwiw i Queensland dros y blynyddoedd diwethaf, fe ddangoson ni ddiddordeb ynddo fe.

“Dw i wedi bod yn cyfathrebu â fe ers diwedd yr haf, ryw bedwar neu bum mis. Mae e’n amlwg yn chwaraewr talentog, a chanddo fe gyfartaledd o 44 mewn criced yn Awstralia ac ymhlith y deg sgoriwr uchaf.

“Yn 29 oed, mae e’n uchelgeisiol ac rydyn ni’n ei groesawu fe ar adeg dda yn ei yrfa.”