Mae Alan Wilkins, y sylwebydd chwaraeon o Gaerdydd, yn dweud ei fod e’n ffodus o fod wedi cyfarfod â thri o sêr mwya’r byd chwaraeon yn ystod ei yrfa – y cricedwr Sachin Tendulkar, y chwaraewr tenis Roger Federer a’r golffiwr Tiger Woods.

Fe fu’n siarad â golwg360 am ei hunangofiant newydd Easier Said Than Done: A Life in Sport (St. David’s Press), ei fywyd a’i waith yn ddiweddar.

“Pe baech chi wedi dweud wrtha i pan o’n i yn Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd neu yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina, ‘Byddwch chi’n cyfarfod â thri o’r eiconau mwyaf erioed, dod yn ffrindiau â nhw, cyfweld â nhw a threulio amser gyda nhw,’ byddwn i wedi dweud eich bod chi’n dod o cuckoo land,” meddai wrth golwg360.

Stori i’w hadrodd

Hanfod unrhyw hunangofiant yw fod gan yr awdur stori, a’r ddawn i’w hadrodd, ac mae’n sicr fod ganddo ddigon o straeon bachog fel y gallai lenwi sawl cyfrol afaelgar.

Mae stori Alan Wilkins yn mynd â ni o’r ysgol yng Nghaerdydd i gaeau criced Morgannwg a Swydd Gaerloyw; ac i flychau sylwebu De Affrica, India a Singapôr. Mae’n cwmpasu’r cyfnod apartheid cyn dyfodiad Cwpan Rygbi’r Byd i Dde Affrica; creu cystadleuaeth griced yr IPL yn India; a thrychineb 9/11 yn yr Unol Daleithiau.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o sylwebyddion chwaraeon yng Nghymru – a chyfrolau sy’n canolbwyntio ar ddwy gamp yn unig – mae’n mentro i fydoedd tenis, golff, sboncen a champau eraill sydd wedi ei godi i lwyfan byd-eang.

Yn y dechreuad…

“Yn Ysgol Rhiwbeina ro’n i’n gwybod am y tro cyntaf y gallwn i chwarae criced,” meddai am ei ddyddiau cynnar cyn iddo symud ymlaen i Ysgol Ramadeg Yr Eglwys Newydd, a ddaeth yn ddiweddarach yn Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd (Whitchurch High School) – ysgol Geraint Thomas (“pwy a ŵyr pam ddaeth seiclwr allan o’r ysgol?!”), Gareth Bale a Sam Warburton.

“Dw i wedi bod eisiau gwisgo siwmper Lloegr erioed,” cyfeddefa wedyn, fel cricedwr o Gymru. “Ond ches i fyth mohoni.” Serch hynny, un o’i gyflawniadau mwyaf, meddai, yw cael gwisgo siwmper Morgannwg – “y siwmper ro’n i am ei chael yn fwy na’r un arall.”

Loughborough – a dod yn chwaraewr difrifol

“Cystadleuol dros ben” yw ei atgofion o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Loughborough wedyn, ac yntau wedi derbyn cyngor i fynd ar drywydd cymwysterau academaidd cyn mynd i fyd chwaraeon.

Mae’n cofio’r profiad o fod ar yr hyn mae’n ei alw’n “gromlin gwyriad safonol”, lle’r oedd angen bod yn well na llawer o’i gyd-fyfyrwyr er mwyn llwyddo – criw oedd yn cynnwys y chwaraewr a hyfforddwr rygbi Syr Clive Woodward a’r rhedwr David Moorcroft.

Mae’n cydnabod cyfraniad Duncan Case, darlithydd seicoleg, oedd wedi gwneud iddo gredu “y gallwn oresgyn y byd.” Fe gafodd y cyfle’n gynnar iawn yn ei yrfa, yn 1979, i brofi’r ddamcaniaeth wrth wynebu un o oreuon y byd criced, Sunil Gavaskar – a chipio’i wiced drwy ei fowlio o amgylch ei goesau – un o ddau achlysur pan gipiodd e wiced y dyn a ddaeth yn gyd-sylwebydd a ffrind annwyl ar hyd y blynyddoedd.

Dyma brofiad yr oedd yn breuddwydio amdano’n eilydd o faeswr yn erbyn yr un gwrthwynebwyr rai blynyddoedd ynghynt – tîm oedd hefyd yn cynnwys Farokh Engineer ac Ajit Wadekar.

Ansicrwydd

“Pan oeddech chi’n cael diwrnodau hir yn maesu, fe fyddech chi’n cwestiynu eich hun ac yn cwestiynu eich gallu,” meddai am yr ansicrwydd a’r gwrthdaro mewnol a oedd yn gysgod tros ran helaeth o’i yrfa. Viv Richards, Clive Lloyd, Glenn Turner – fe gyfrannodd pob un o’r batwyr rhagorol hynny at ansicrwydd y bowliwr.

“Byddwn i’n mynd i mewn i’r ystafell newid gan feddwl, “A ydw i wedi siomi fy nghyd-chwaraewyr?”

Ond eto, fe gafodd ei gyhuddo droeon o fod yn rhy emosiynol fel chwaraewr – nid lleiaf gan ei hyfforddwr ym Morgannwg, Tom Cartwright.

“Rhaid i chi fod yn emosiynol i chwarae’r gêm, ond rhaid i chi ymbellhau i raddau hefyd,” meddai. “Rhaid i chi ddarganfod y llinell.”

Fe dreiddiodd yr ansicrwydd i’w waith fel sylwebydd hefyd, ac yntau’n gyn-gricedwr sirol ymhlith cyn-gricedwyr rhyngwladol.

“Fy rôl i yn y blwch sylwebu yw hwyluso sgwrs rhwng, dyweder, Ravi Shastri, Sanjay Manjrekar a Nasser Hussain. Dw i’n cefnogi fy hun i wneud hynny. Y tuedd, yn enwedig yn Sky, yw cael sêr [yn sylwebyddion]. Mae yna bwysau i brofi eich hun wedyn.”

Blynyddoedd apartheid

Roedd sawl rheswm am y ffrae â Tom Cartwright. Roedd cefndir academaidd Alan Wilkins fel un o gyn-fyfyrwyr Loughborough yn sicr yn un ohonyn nhw. Ond y rheswm pennaf, mae’n siŵr, oedd ei benderfyniad i fynd i Dde Affrica yn ystod cyfnod apartheid – penderfyniad oedd wedi sbarduno ei yrfa fel sylwebydd yn ddiweddarach.

Yn 1978 y gwnaeth e’r penderfyniad tyngedfennol i adael am Dde Affrica – penderfyniad a gafodd ei gymeradwyo gan y dyn oedd y sbardun ar gyfer ffrae apartheid, Basil D’Oliveira.

“Pan gewch chi’r fath anogaeth, rhaid i chi fynd,” meddai wrth edrych yn ôl. “Dw i ddim yn difaru mynd. Fe welais i’r cyfan drosof fi fy hun. Fe wnes i sefyll lan dros yr hyn ro’n i’n credu oedd yn gywir. Does neb yn dal dig yn fy erbyn i am fynd.”

Ond roedd rhai yn dal dig yn y dyddiau cynnar. Erbyn 1987, roedd e’n gweithio fel sylwebydd rygbi i SABC ar drothwy’r Cwpan Rygbi’r Byd cyntaf, a chafodd ei gais i fynd ei wrthod, er y byddai’n dychwelyd adref i Gymru ar gyfer y gystadleuaeth. Yn ddiweddarach, cafodd ei gais am swydd gyda BBC Radio 2 ei wrthod am fod ganddo fe acen De Affrica o hyd.

“Roedd un neu ddau o bobol yn ei chael yn anodd fy nerbyn i i grombil BBC Cymru,” meddai, er iddo gael cefnogaeth dau o’r mawrion, Onllwyn Brace a Dewi Griffiths.

“Roedd gen i acen, ond boi Caerdydd o’n i ac ydw i. Ond roedd teimladau’n gryf ar y pryd.”

Bywyd personol

Er iddo fe gael gyrfa lwyddiannus fel sylwebydd, fe fu’n rhaid iddo fe wneud sawl aberth yn ei fywyd personol. Daeth dwy berthynas i ben yn sgil y teithio sylweddol – y naill ym Mryste a’r llall yn Ne Affrica.

“Gall criced fod yn hunanol. ‘Fi’ sy’n bwysig,” meddai. “Wnes i ddim teithio ryw lawer chwaith – gallwn i fod wedi bod i ffwrdd am aeafau cyfan. Ac fe gyfrannodd y darlledu at hynny hefyd.

“Pe bai gen i’r gallu i droi’r cloc yn ôl, fe wnawn i bethau’n wahanol.”

Singapôr

Mae’n dweud â balchder ei fod e’n Gymro ym mhle bynnag y bu ar draws y byd. Wrth dreulio 16 o flynyddoedd yn Singapôr, fe ddaeth pobol y wlad honno i wybod mwy am Gymru drwy eu cysylltiad ag Alan Wilkins.

“Mae pobol yn rhyfeddu fod gyda ni gastell yng nghanol y brifddinas,” meddai. “Cawson nhw eu syfrdanu!”

Mae bod yn Gymro wedi bod o fantais iddo ambell waith hefyd, meddai â’i dafod yn ei foch. “Cymro ydw i, nid Sais. Parc yr Arfau?!,” meddai rywdro wrth blismon yn Ne Affrica ar ôl i’w griw o ffrindiau fynd i hwyliau mewn car yn Johannesburg. “Die Waliser” oedden nhw bryd hynny, meddai â gwên, a chael eu tywys gartref – dros awr o daith “fel mynd o Gaerdydd i Abertawe”.

Dod adref i Gymru

Ac yntau bellach yn briod â Susie, fe dreulion nhw 16 o flynyddoedd yn Singapôr, ac yntau erbyn mynd yno, i weithio i ESPN Star Sports, yn sylwebydd adnabyddus. Roedd yn sylwebydd ar rygbi, criced, rasio ceir, tenis, golff a nifer o gampau eraill.

Fe ddaeth i gysylltiad â mawrion y byd chwaraeon drwy ei waith – o’r chwaraewr tenis Vijay Amritraj i’r golffiwr Tiger Woods.

“Dychmygwch dreulio’r holl flynyddoedd hynny mewn dinas mor ddeinamig,” meddai. “Mae Susie, fy ngwraig, yn dod o Dredegar ond treuliodd hi flynyddoedd yno’n darlithio mewn ffasiwn!

“Fe weithiais i yng nghyfnod Sachin Tendulkar, Tiger Woods a Roger Federer. Gallen ni fod wedi aros yng Nghymru, ond fe deithion ni’r byd cyn dod adre’. Gallwn i gael galwad ffôn i fynd i rywle’r wythnos nesa’ – a dyna’r cyffro i fi.”