Fydd batiwr Morgannwg, Colin Ingram ddim ar gael ar gyfer ymgyrch 50 pelawd y sir yn 2019, ar ôl eu harwain yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf.

Mae’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica wedi’i ddewis i chwarae i’r Delhi Capitals yng nghystadleuaeth ugain pelawd yr IPL yn India.

Fe guron nhw’r Sunrisers Hyderabad i sichrau gwasanaethau’r batiwr sydd wedi chwarae i Forgannwg ers 2015.

Cafodd ei brynu am rs 6.4 crore (£715,232) yn yr ocsiwn heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 18).

Doedd Shaun Marsh, yr Awstraliad oedd wedi chwarae i’r sir y tymor diwethaf, ddim wedi cael ei brynu, ond mae’n bosib y bydd e yng ngharfan Awstralia ar gyfer Cwpan y Byd y tymor nesaf.

Un arall oedd heb ei brynu oedd batiwr llaw chwith Awstralia, Usman Khawaja a dreuliodd ran o dymor 2018 gyda Mogannwg.

Mae Colin Ingram yn chwarae mewn gemau undydd yn unig i Forgannwg ers y tymor diwethaf.