Mae dau gricedwr o Gymru wedi cael eu henwi ymhlith y deuddeg chwaraewr gorau yng Nghwpan y Byd dros 50 oed yn Awstralia.

Fe sgoriodd Steve Maddock 199 o rediadau yn y gystadleuaeth ar gyfartaledd o 39.80, ac fe gipiodd saith wiced ar gyfartaledd o 25.43 yr un.

Ac fe sgoriodd Adrian Dale, a gafodd ei fagu yng Nghas-gwent ond sydd wedi ymgartrefu yn Auckland, 276 o rediadau ar gyfartaledd o 55.20, gan ddod y cricedwr cyntaf erioed i daro canred yn y gystadleuaeth.

Aeth Cymru allan o’r gystadleuaeth ar ôl colli o bum wiced yn erbyn De Affrica yn rownd gyn-derfynol y Plât.

Awstralia gipiodd y tlws, gan guro Pacistan o dri rhediad.

Tîm gorau’r gystadleuaeth: Richard Petrie (Seland Newydd), Sajjid Ali (Pacistan), Adrian Dale (Seland Newydd), Peter Solway (Awstralia), Steve Maddock (Cymru), Mason Robinson (Seland Newydd), Stephen Foster (Lloegr), Steve Gollan (Awstralia), Riaan van der Rheede (De Affrica), Mahmood Ahmad (Canada), Jaffar Qureshi (Pacistan), Rohan Ismail (Sri Lanca).