Fe fydd Clwb Criced Casnewydd yn cynnal un o gemau Morgannwg yn 2019 – a hynny am y tro cyntaf ers 1965.

Bydd yr ornest yn erbyn Swydd Gaerloyw yn dechrau ar Fai 14, a hon fydd y gêm gyntaf ar y cae hwn i ennill statws dosbarth cyntaf.

Dydy Gerddi Sophia ddim ar gael ar ddechrau’r tymor, wrth i’r cae gael ei baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Roedd yr ornest rhwng y ddwy sir yng Nghasnewydd yn 1939 yn un hanesyddol, wrth i Wally Hammond daro 302 i’r Saeson ar gae Rodney Parade, cyn i fatiwr Morgannwg, Emrys Davies daro 287 heb fod allan i achub y gêm i’r Cymry.

Cafodd 27 o gemau dosbarth cyntaf eu cynnal yng Nghasnewydd rhwng 1935 a 1965, wrth i Forgannwg ddechrau chwarae yng Ngwent am y tro cyntaf, gan ddefnyddio caeau Glyn Ebwy a’r Fenni hefyd.

Mae Parc Spytty wedi cynnal nifer o gemau ail dîm Morgannwg a Siroedd Llai Cymru, ac fe chwaraeodd Morgannwg yn erbyn tîm ‘A’ Pacistan yn 2016.