Mae gan Gymru dîm criced yng Nghwpan y Byd dros 50 oed, sy’n dechrau yn Awstralia heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 21).
Ond mae’r Cymro Adrian Dale, cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, yn cynrychioli Seland Newydd, ar ôl symud yno i fyw ar ôl i’w yrfa broffesiynol ddod i ben yn 2004. Mae’n gweithio i Fwrdd Criced Seland Newydd.
Bydd Seland Newydd yn herio Cymru ar Dachwedd 26.
Y gystadleuaeth
Yr Awstraliad Stirling Hamman oedd wedi creu’r gystadleuaeth ar ôl cael y syniad yng nghefn tacsi yn ystod taith griced i Trinidad.
Bydd wyth gwlad – Cymru, Lloegr, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, Canada, Pacistan a Sri Lanca yn cystadlu i ennill y tlws.
Bydd 34 o gemau’n cael eu cynnal dros gyfnod o dair wythnos yn nhalaith New South Wales.
Er nad yw’r gystadleuaeth yn un swyddogol yn ôl y Bwrdd Criced Rhyngwladol (ICC), mae wedi derbyn cefnogaeth gan Fwrdd Criced Awstralia.
Cymru
Bydd y carfannau, ar y cyfan, yn gyfuniad o gyn-chwaraewyr proffesiynol a chwaraewyr clybiau lleol.
Mae hynny’n sicr yn wir o safbwynt Cymru, sy’n dibynnu’n llwyr ar chwaraewyr amatur.
“Fel pobol 50 oed, roedden ni’n meddwl bod anrhydeddau rhyngwladol yn uchelgais pell,” meddai trefnydd tîm Cymru, Paul Donovan yn rhaglen swyddogol y gystadleuaeth.
“Mae nifer o’n chwaraewyr yn uwch-swyddogion gyda’r clybiau maen nhw’n eu cynrychioli, ac maen nhw i gyd yn aelodau teilwng o’r garfan yn sgil eu hymroddiad i griced ar lawr gwlad.
“Mae’n wobr wych am lawer o waith caled.”
Y gemau
Curodd Cymru Dde Affrica o dri rhediad yn eu gêm gyntaf heddiw. Tarodd Steve Maddock 59 wrth i Gymru orffen eu batiad ar 208 am chwech.
Ond wrth ymateb, llwyddodd De Affrica i sgorio 205 am wyth yn unig.
Bydd Awstralia hefyd yn herio Canada heddiw, tra bod Lloegr yn wynebu Sri Lanca a Seland Newydd yn wynebu Pacistan.
Tachwedd 21 – De Affrica v Cymru
Tachwedd 22 – Pacistan v Cymru
Tachwedd 25 – Sri Lanca v Cymru
Tachwedd 26 – Cymru v Seland Newydd
Tachwedd 28 – Lloegr v Cymru
Tachwedd 29 – Awstralia v Cymru
Rhagfyr 2 – Cymru v Canada
Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal ar Ragfyr 3, a’r rownd derfynol ar Ragfyr 5, gyda’r timau sy’n colli’n mynd i mewn i gystadleuaeth y Plât dros yr un cyfnod.