Mae Clwb Criced Morgannwg wedi penodi Matthew Maynard yn brif hyfforddwr dros dro.

Cafodd Robert Croft ei ddiswyddo fis diwethaf yn adolygiad annibynnol o dymor siomedig, wrth i Forgannwg orffen ar waelod ail adran y Bencampwriaeth, a methu a chyrraedd rowndiau terfynol y cystadlaethau undydd.

Bydd Matthew Maynard yn gyfrifol am arwain y garfan wrth iddyn nhw baratoi dros y gaeaf ar gyfer y tymor nesaf.

Fydd y prif hyfforddwr parhaol newydd ddim yn cael ei benodi tan ar ôl i’r Cyfarwyddwr Criced newydd gael ei benodi, a hwnnw’n olynu Hugh Morris, sy’n parhau’n Brif Weithredwr.

Mae disgwyl i Forgannwg gynnal cyfweliadau ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Criced ym mis Rhagfyr.

Gyrfa Matthew Maynard

 Yn un o hoelion wyth Morgannwg, fe fu Matthew Maynard yn chwaraewr, yn gapten, yn is-hyfforddwr ac yn gyfarwyddwr criced yn y gorffennol ac yn fwyaf diweddar, fe fu’n ymgynghorydd batio ar ôl dychwelyd i Gymru o Wlad yr Haf, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Criced am dair blynedd.

Mae e hefyd wedi bod yn brif hyfforddwr ar dîm St Lucia Zouks yn y Caribî a’r Nashua Titans yn Ne Affrica.

Enillodd e’r gystadleuaeth pedwar diwrnod a’r gystadleuaeth ugain pelawd yn ei dymor cyntaf gyda thîm Nashua.

Mae hefyd wedi bod yn is-hyfforddwr gyda Lloegr, gan helpu cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, Duncan Fletcher i ennill Cyfres y Lludw gyda’r wlad yn 2005.

Ymateb i’r penodiad

 “Dw i wrth fy modd yn derbyn y rôl yn brif hyfforddwr dros dro,” meddai Matthew Maynard.

“Morgannwg yw fy nghartref erioed, felly pan wnaeth Hugh ofyn i fi hyfforddi’r tîm dros y gaeaf, roedd yn gyfle na allwn i mo’i wrthod.

“Ry’n ni wedi cael sawl blwyddyn anodd, ond dw i wedi cyffroi o feddwl am weithio gyda’n criw talentog o chwaraewyr dros y gaeaf, ac alla i ddim aros i gael dechrau arni.”

“Mae gan Matt gyfoeth o brofiad fel prif hyfforddwr a dealltwriaeth go iawn o’r clwb o’i gyfnod yma fel chwaraewr a hyfforddwr,” meddai’r Prif Weithredwr, Hugh Morris.

“Mae’n uchel ei barch yn y clwb a’r gymuned griced ehangach, ac mae wedi’i brofi ei hun wrth ddatblygu a gwella chwaraewyr ifainc.

“Fe yw’r person delfrydol i weithio gyda’n chwaraewyr yn Llwybrau Morgannwg dros y gaeaf, wrth i ni barhau i chwilio am Gyfarwyddwr Criced a Phrif Hyfforddwr newydd.”