Fe fydd is-hyfforddwr Morgannwg, David Harrison yn ymuno â thaith Llewod Lloegr fel Prif Ddadansoddwr ac is-hyfforddwr.

Bydd y garfan yn teithio i’r Emiradau Arabaidd Unedig fis nesaf ar gyfer gemau prawf, gemau 50 pelawd a gemau ugain pelawd yn erbyn tîm ‘A’ Pacistan, ac yna i India ym mis Ionawr.

Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei ddewis i deithio fel aelod o dîm hyfforddi un o dimau rhyngwladol Lloegr, ac fe ddaw ar ddiwedd tymor siomedig i Forgannwg, sydd wedi gweld y prif hyfforddwr Robert Croft yn cael ei ddiswyddo a’r Cyfarwyddwr Criced Hugh Morris yn gadael ei rôl.

Profiad newydd

Dywedodd David Harrison: “Bydd teithio gyda rhaglen Llewod Lloegr yn brofiad newydd i fi. Fe wnes i rywfaint o waith gyda’r Llewod haf diwetha’ pan chwaraeon nhw yn erbyn tîm ‘A’ India, ac fe gymerais i dipyn i ffwrdd o hynny.

“Mae’n gyfle perffaith i weithio gyda rhai o’r chwaraewyr gorau yn y wlad, cael dysgu syniadau newydd a datblygu fy sgiliau hyfforddi fy hun.

“Mae’r clwb wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi fy annog i, a dw i’n credu ei fod yn dda i Forgannwg fod gyda ni gynrychiolydd ar daith y Llewod.

“Fe fydd cydweithio â hyfforddwyr rhyngwladol fel Andy Flower, Graham Thorpe a Kevin Shine, a phrofi amgylchfyd perfformiad uwch gwahanol yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ac yn fy ngalluogi i ddod â rhywfaint o’r hyn dw i’n ei ddysgu yn ôl i Gymru er mwyn helpu Morgannwg.”