Mae Clwb Criced Morgannwg wedi arwyddo’r batiwr 26 oed o Swydd Nottingham, Billy Root ar gytundeb dwy flynedd.

Mae’n frawd i gapten Lloegr, Joe Root, ac fe ddechreuodd ei yrfa yn aelod o Academi Swydd Efrog cyn treulio dwy flynedd yn Trent Bridge.

Mae ganddo fe gyfartaledd o fwy na 30 gyda’r bat ym mhob fformat, ac mae e wedi taro dau ganred mewn gemau dosbarth cyntaf, a chanred Rhestr A yn erbyn Swydd Warwick yn 2016.

Dywedodd ei fod e “wedi cyffroi” o gael ymuno â Morgannwg, a’i fod yn edrych ymlaen at ymuno â’r tîm ifanc.

“Pan siaradais i â Hugh Morris [y prif weithredwr], siaradodd e dipyn am strategaeth y clwb i ddatblygu tîm ifanc a chyffrous, ac mae’n rhywbeth dw i wedi cyffroi o gael bod yn rhan ohono fe.

“Doedd y tymor diwethaf ddim yn un gwych i’r clwb, ond mae tipyn o dalent yma a dw i’n credu y galla i wneud cyfraniad mawr i’r tîm dros y tymhorau nesaf, a’n helpu ni i gystadlu am dlws mewn criced pêl wen, a cheisio gwella’n canlyniadau yn y Bencampwriaeth.”

‘Ychwanegu at ein batio’

Wrth groesawu Billy Root i’r clwb, dywedodd Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Criced Morgannwg, Hugh Morris ei fod e wrth ei fodd.

“Yn ystod yr ymgyrch, fe ddaeth yn amlwg fod angen i ni ychwanegu at ein batio ac o arwyddo Billy, rydym wedi arwyddo chwaraewr sydd yn dal yn ifanc ond sydd â phrofiad o chwarae criced yn yr Adran Gyntaf, ac sy’n awchu am lwyddiant.

“Gall e chwarae ym mhob fformat, sy’n ei wneud e’n gaffaeliad delfrydol i’r clwb, ac fe fydd e’n ychwanegiad gwych at yr ystafell newid.”