Gallai tîm criced Morgannwg gipio buddugoliaeth brin yng Nghaerdydd ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth olaf yn erbyn Swydd Caerlŷr.

Mae ganddyn nhw fantais o 333 yn eu hail fatiad, wrth ddechrau’r diwrnod ar 106 am bedair, ar ôl penderfynu peidio â gorfodi’r gwrthwynebwyr i ganlyn ymlaen ar ôl adeiladu mantais batiad cyntaf o 227.

Dydi Morgannwg ddim wedi ennill gêm Bencampwriaeth ers gêm gynta’r tymor hwn, ac maen nhw heb fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth hon yng Nghaerdydd ers tair blynedd, pan guron nhw eu gwrthwynebwyr presennol.

Erbyn i’r Cymry gau eu batiad heddiw, mae’n debygol y bydd gan y Saeson nod o fwy na 400 i ennill – a hynny ar ôl cael eu bowlio allan am 132 yn eu batiad cyntaf.

Batio llwyddiannus am unwaith

Roedd batiad cyntaf Morgannwg yn dirwyn i ben ar ddechrau’r ail ddiwrnod wrth i Timm van der Gugten a Kieran Bull adeiladu partneriaeth o 80 am y nawfed wiced, gan sicrhau pedwerydd pwynt batio i’r Cymry.

Tarodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten ei ail hanner canred mewn tair gêm wrth orffen gyda 50 ar ei ben.

… a bowlio cywir

Wrth ddechrau eu batiad cyntaf, collodd y Saeson eu  batiwr agoriadol Sam Evans yn y belawd gyntaf un, pan gafodd ei fowlio gan gapten Morgannwg, Michael Hogan.

Collodd yr ymwelwyr eu capten Colin Ackermann ym mhelawd ola’r sesiwn gyntaf pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Graham Wagg, gan orffen ar 48 am ddwy.

Cafodd cyn-fatiwr Morgannwg, Mark Cosgrove ei waredu yn yr un modd oddi ar belen gyntaf sesiwn y prynhawn.

Cafodd Harry Dearden ei ddal gan Timm van der Gugten oddi ar ei fowlio’i hun am 48, yr unig gyfraniad o bwys i’r ymwelwyr mewn batiad digon siomedig ar y cyfan.

Cwympodd un wiced ar ôl y llall wedyn, a Graham Wagg yn gorffen gyda thair wiced am 25 mewn deg pelawd – a phedair ohonyn nhw’n belawdau di-sgôr. Cipiodd Michael Hogan, Timm van der Gugten a Craig Meschede ddwy wiced yr un, a’r troellwr ifanc Kieran Bull gipiodd y llall.

Ail fatiad Morgannwg

Parhau wnaeth cyfnod siomedig Stephen Cook gyda Morgannwg, wrth i Tom Taylor daro’i goes o flaen y wiced am bump. Mae e wedi sgorio 120 rhediad yn unig mewn wyth batiad ar gyfartaledd o 15.

Ar ôl colli’r batiwr agoriadol o Dde Affrica, collodd Morgannwg dair wiced am un rhediad.

Tarodd Dieter Klein goes Nick Selman o flaen y wiced cyn i’r un bowliwr roi daliad i’r wicedwr Lewis Hall i waredu Jack Murphy.

Roedd Morgannwg yn yn 39 am bedair pan ergydiodd Kiran Carlson yn wyllt y tu allan i’r ffon agored i roi daliad arall i’r wicedwr oddi ar fowlio Gavin Griffiths.

Adeiladodd Chris Cooke a Jeremy Lawlor bartneriaeth ddi-guro o 67 wedyn am y bumed wiced, a Chris Cooke heb fod allan ar 41.