Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Caerlŷr yng Nghaerdydd – ddiwrnod yn unig ar ôl i’r sir gyhoeddi adolygiad yn sgil eu tymor siomedig.

Wrth chwilio am ail fuddugoliaeth yn unig yn y Bencampwriaeth, roedd y Cymry’n 331 am wyth ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, yn dilyn cyfraniad o 83 gan Kiran Carlson, a chyfres o bartneriaethau cadarn – roedd pump ohonyn nhw’n werth mwy na 50, sy’n beth prin iawn y tymor hwn.

Roedd nifer o’r batwyr eraill wedi cyfrannu’n sylweddol, gan gynnwys Craig Meschede (55) a Timm van der Gugten (40 heb fod allan), wrth i Forgannwg ennill tri phwynt batio.

Dechrau siomedig i’r batiad

 Yr ymwelwyr gafodd y fantais gynharaf ar y bore cyntaf ar ôl penderfynu bowlio, wrth i’r Cymry orffen y sesiwn gyntaf ar 109 am dair.

Yn ei gêm gyntaf i’r Saeson, cipiodd Tom Taylor ddwy wiced wrth waredu Nick Selman a Jack Murphy yn rhad wrth i bryderon Morgannwg gyda’r bat ymddangos fel pe baen nhw am barhau tan belen olaf un y tymor.

Cwympodd y ddwy wiced mewn pelawdau olynol i’r bowliwr cyflym ifanc, wrth iddo daro coes Nick Selman o flaen y wiced cyn i Jack Murphy roi daliad yn sgwâr ar yr ochr agored i Ben Mike, a Morgannwg bellach yn 32 am ddwy.

Toc cyn cinio, cwympodd y drydedd wiced pan darodd Callum Parkinson goes Stephen Cook o flaen y wiced am 36, a’r batiwr bron â dyblu ei sgôr gorau blaenorol o 20 i’r sir. Roedd Morgannwg yn 109 am dair erbyn amser cinio, a Kiran Carlson ddau rediad yn brin o hanner canred oddi ar 67 o belenni.

Prynhawn o bwyntiau batio

Yn ystod sesiwn y prynhawn, sicrhaodd Morgannwg eu pwyntiau batio cyntaf ers mis Mehefin.

Cyrhaeddodd Kiran Carlson ei hanner canred yn fuan ar ôl cinio, gan daro’i wythfed ergyd i’r ffin am bedwar yn ystod pelawd gynta’r sesiwn gan Dieter Klein. Tarodd e ddau bedwar arall wrth iddo garlamu i 61 heb fod allan.

Parhau i ddod wnaeth yr ergydion i’r ffin, wrth i Kiran Carlson daro dau bedwar oddi ar belenni olynol oddi ar fowlio Tom Taylor, cyn taro pedwar arall cyn diwedd pelawd rhif 32 y batiad.

Daeth ei bymthegfed pedwar yn y batiad oddi ar fowlio Ben Mike yn y belawd ganlynol, ond fe ddaeth ei fatiad i ben pan gafodd ei fowlio gan yr un bowliwr am 83.

Y pen arall i’r llain, sgoriodd Jeremy Lawlor ei rediad cyntaf oddi ar belen rhif 19 y batiad ond fe gollodd ei wiced yn fuan wedyn, wrth i Dieter Klein daro’i goes o flaen y wiced am ddau wrth i Forgannwg golli dwy wiced heb sgorio’r un rhediad.

Partneriaethau allweddol

Pan ddaeth Craig Meschede a Chris Cooke ynghyd ar 148 am bump, roedd angen iddyn nhw geisio achub Morgannwg unwaith eto.

Adeiladon nhw bartneriaeth o hanner cant mewn ychydig dros ddeg pelawd, wrth i’r Cymry gyrraedd 200 a sicrhau eu pwynt batio cyntaf ers yr ornest yn erbyn Swydd Warwick yn Llandrillo yn Rhos fis yn ôl.

Ond daeth y bartneriaeth o 59 i ben pan gafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr Lewis Hall oddi ar fowlio Gavin Griffiths am 27. Erbyn hynny, roedd Craig Meschede y pen arall ar 39 heb fod allan, wrth i Forgannwg gyrraedd 228 am chwech erbyn amser te.

Daeth ail bwynt batio i Forgannwg diolch i Graham Wagg a Craig Meschede, wrth iddyn nhw fynd â’r cyfanswm y tu hwnt i 250.

Ond ar ôl i Craig Meschede gyrraedd ei hanner canred oddi ar 107 o belenni, tarodd Callum Parkinson goes Graham Wagg o flaen y wiced am 28, gan ddod â phartneriaeth o 61 i ben.

Cafodd Craig Meschede ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored wedyn, wrth geisio torri pelen gan y troellwr Colin Ackermann, a Morgannwg yn 268 am wyth.

Bythefnos ar ôl taro 60 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd, adeiladodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten bartneriaeth ddi-guro o 63 gyda Kieran Bull (14 heb fod allan) am y nawfed wiced cyn i’r chwarae ddod i ben ar ddiwedd y diwrnod cyntaf ar ôl cipio trydydd pwynt batio.