Mae Morgannwg wedi colli am y seithfed tro yn olynol yn Bencampwriaeth, a hynny o fatiad a 172 o rediadau, ar ôl cael eu bowlio allan am 78 yn eu hail fatiad yn erbyn Swydd Caint yn Caergaint.

Dyma’u sgôr isaf mewn batiad cyflawn y tymor hwn. Cyn heddiw, eu dau sgôr isaf oedd 88 ac 85 yn yr un gêm yn erbyn Sussex yn Hove.

Dyma’r pedwerydd tro hefyd iddyn nhw golli o fatiad a mwy y tymor hwn, ac mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod y Saeson yn debygol o ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Roedd Morgannwg yn 33 am bedair ar ddechrau’r trydydd diwrnod, gan golli eu chwe wiced olaf o fewn ychydig dros awr, wrth i Darren Stevens orffen y batiad gyda phum wiced am 24.

Manylion y batiad a’r gêm

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 186 yn eu batiad cyntaf, gyda phump chwaraewr yn unig yn cyrraedd ffigurau dwbwl.

Unig uchafbwynt y batiad oedd 80 gan Jack Murphy, sgôr gorau erioed y batiwr ifanc o Sir Benfro mewn gêm dosbarth cyntaf.

Cipiodd Matt Henry bedair wiced am 45, cyn i’w dîm fynd ymlaen i sgorio 436 yn eu batiad cyntaf ar ôl i Zak Crawley sgorio 168 – ei sgôr gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf. Roedd cyfraniad o 85 hefyd gan y capten Sam Billings.

Ond roedd yr ysgrifen ar y mur i Forgannwg erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, ar ôl colli wicedi hwyr wrth fatio am 14 pelawd ola’r dydd.

Collodd Morgannwg eu batwyr agoriadol, Nick Selman a Stephen Cook wrth i’r ddau gael eu dal yn y slip oddi ar fowlio cymhedrol Darren Stevens o fewn chwe phelawd gynta’r batiad.

Cafodd Kiran Carlson ei fowlio wedyn gan y troellwr Joe Denly cyn i Kieran Bull gael ei ddal yn y slip oddi ar belen ola’r dydd gan Matt Henry i adael y Cymry’n 33 am bedair, 217 o rediadau i ffwrdd o orfodi’r Saeson i fatio am yr ail waith.

Y trydydd diwrnod

Wrth geisio achub y sefyllfa ar ddechrau’r trydydd diwrnod, parhau i golli wicedi’n gyflym wnaeth Morgannwg.

Roedden nhw’n 36 am bump pan gafodd Jeremy Lawlor ei ddal gan y wicedwr Sam Billings oddi ar fowlio Darren Stevens am dri, ac yn 42 am chwech belawd a hanner yn ddiweddarach pan gyfunodd y ddau eto i waredu Chris Cooke yn yr un modd.

Cafodd Craig Meschede ei fowlio gan Matt Henry wedyn am ddau, wrth i Forgannwg lithro ymhellach i 45 am saith.

Cyfunodd Sam Billings a Matt Henry i waredu Ruaidhri Smith am naw, a Morgannwg erbyn hynny’n 59 am wyth.

Cipiodd Matt Henry ei bedwaredd wiced pan fowliodd e Timm van der Gugten am wyth i fynd â’i dîm o fewn un wiced i’r fuddugoliaeth.

Ac fe ddaeth y cyfan i ben pan gafodd y capten Michael Hogan ei ddal yn y cyfar gan Joe Denly oddi ar fowlio Darren Stevens, wrth iddo gipio’i bumed wiced yn y batiad.