Mae Morgannwg dan bwysau ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaergaint, er i’r batiwr ifanc o Sir Benfro, Jack Murphy daro 80, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed.

Cafodd y Cymry eu bowlio allan am 186, cyn i’r Saeson orffen y diwrnod ar 93 am ddwy, wrth i Zak Crawley orffen yn ddi-guro ar 56.

Mae’r tîm cartref yn mynd am bumed buddugoliaeth o’r bron yn y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw geisio dyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf.

Adeiladodd Zak Crawley a Joe Denly bartneriaeth o hanner cant o fewn 13 o belawdau, wrth i Zak Crawley gyrraedd ei hanner cant oddi ar 62 o belenni.

Daeth unig lwyddiannau Morgannwg gyda’r bêl wrth i Sean Dickson gael ei ddal yn y slip gan Stephen Cook oddi ar fowlio Timm van der Gugten, cyn i’r troellwr Kieran Bull gipio wiced Joe Denly am 30, wrth iddo gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke i lawr ochr y goes.

Mae gan y Saeson fantais o 93 yn eu batiad cyntaf, gydag wyth wiced wrth gefn.

Ymdrech arwrol…

Tra bod ei gyd-chwaraewyr yn colli eu wicedi’n gyson, batiodd Jack Murphy am bron i bedair awr a hanner wrth daro 80. Wynebodd e 182 o belenni gan daro 13 pedwar cyn bod y batiwr olaf allan wrth i fatiad Morgannwg ddirwyn i ben ar 186.

Dyma’r ail waith y tymor hwn i’r chwaraewr o Greseli gosbi’r un gwrthwynebwyr, ac yntau wedi sgorio 54 yn eu herbyn nhw yng Nghaerdydd ym mis Mai – er i Forgannwg golli.

… ond y gweddill yn siomi

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, roedd y Cymry’n 86 am bump erbyn amser cinio, wrth i Matt Henry gipio tair wiced i’r Saeson, gan orffen gyda ffigurau terfynol o bedair am 45.

Cafodd Nick Selman ei fowlio gan Darren Stevens oddi ar ymyl ei fat ym mhedwaredd belawd y diwrnod, cyn i’r un bowliwr sicrhau daliad i Ollie Robinson yn y slip i waredu Stephen Cook am 20.

Cafodd Kiran Carlson ei ddal yn isel yn y slip gan Sean Dickson ac erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 51 am dair o fewn ugain pelawd.

Jeremy Lawlor oedd y pedwerydd batiwr allan, wrth yrru’r bêl yn gam at Harry Podmore ar ochr y goes.

Ac fe gwympodd y bumed wiced ym mhelawd olaf sesiwn y bore, pan gafodd Chris Cooke ei ddal gan y wicedwr Sam Billings am bedwar.

Diflastod yn y prynhawn

Yn fuan ar ôl cinio, collodd Craig Meschede ei wiced pan yrrodd e’n gam oddi ar fowlio Grant Stewart a chael ei ddal yn y slip gan Zak Crawley am 16.

Ychwanegodd Jack Murphy a Ruaidhri Smith 42 am y seithfed wiced, cyn i Smith gael ei ddal gan Matt Henry wrth yrru pelen oddi ar fowlio Darren Stevens yn syth ar yr ochr agored.

Kieran Bull oedd allan nesaf, wrth iddo gael ei fowlio gan Grant Stewart wrth i’r bêl wyro i ffwrdd o’r batiwr.

Cyrhaeddodd Jack Murphy ei hanner canred oddi ar 111 o belenni, ar ôl taro wyth pedwar.

Wrth i’r Saeson droi at y troellwr coes Joe Denly, cipion nhw wiced Timm van der Gugten, wrth iddo ddarganfod dwylo diogel Sean Dickson yn y slip.

A’i gapten Michael Hogan yn cadw cwmni iddo ar ben draw’r llain, collodd Jack Murphy ei wiced wrth yrru’n syth oddi ar y droed ôl, a darganfod dwylo diogel Heino Kuhn ar y ffin ar yr ochr agored i roi pedwaredd wiced i Matt Henry.

Mantais fechan o 93 sydd gan Forgannwg, felly, wrth i’r Saeson gydio unwaith eto yn eu batiad cyntaf.

Sgorfwrdd