Mae prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft wedi cyhoeddi tri newid yn y garfan i herio Swydd Gaint yn y Bencampwriaeth yng Nghaergaint.

Mae’r batwyr Jack Murphy a Nick Selman yn dychwelyd yn lle Connor Brown a Tom Cullen, ac mae’r chwaraewr amryddawn David Lloyd allan ar ôl torri ei fys yn y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Tra bod Morgannwg ar waelod y tabl, mae Swydd Gaint yn ail ac yn mynd am ddyrchafiad i’r adran gyntaf.

O safbwynt y Saeson, daw’r bowliwr cyflym Mitch Claydon i mewn yn lle Ivan Thomas, sydd wedi anafu ei benglin.

Mae eu carfan hefyd yn cynnwys y bowliwr cyflym Harry Podmore, oedd wedi treulio cyfnodau ar fenthyg gyda Morgannwg yn 2016 a 2017.

Batio ym mis Medi

Yn ôl Robert Croft, fe allai Morgannwg gael mantais o deithio ym mis Medi, gan fod y rheolau’n rhoi’r dewis cyntaf o fatio neu fowlio i’r tîm sydd oddi cartref.

“Ry’n ni’n gweld ar draws y wlad fod batio wedi bod yn hunlle’ i lawer o dimau.

“Pan y’ch chi’n chwarae tipyn o gemau sirol ar ddechrau’r tymor ac ar y diwedd, fe fydd bowlwyr wrth eu boddau, a’r batwyr dan bwysau go iawn, felly byddwn ni’n mynd yno a does dim dwywaith y bydd y llain yn un i sicrhau canlyniad.

“Byddwn ni’n cael ei defnyddio’n gyntaf gyda’r bêl os ydyn ni mo’yn, felly gawn ni weld faint o bwysau allwn ni ei roi arnyn nhw.”

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg ar waelod y tabl o hyd, ar ôl ennill un gêm yn unig y tymor hwn, ond fe fyddan nhw’n awyddus i ailadrodd y llwyddiant gawson nhw ar y cae hwn y tymor diwethaf, pan guron nhw’r Saeson o bum wiced yng ngêm ola’r tymor.

Dywedodd Robert Croft, “Mae gyda ni atgofion da o chwarae yn erbyn Swydd Gaint pan guron ni nhw yma y llynedd, oedd yn berfformiad rhagorol ar y cyfan.

“Roedd criw o ddynion ifainc yno ar y pryd oedd wedi’u curo nhw, felly does dim rheswm pam na allwn ni ei wneud e eto.”

Y capten, Michael Hogan oedd y seren y tymor diwethaf, wrth iddo fe gipio deg wiced yn yr ornest a llwyddo i wyrdroi’r gêm ar ôl i Joe Denly daro 152 i roi mantais batiad cyntaf o 73 i’r Saeson.

Cipiodd e chwe wiced yn yr ail fatiad wrth i Forgannwg fowlio’u gwrthwynebwyr allan am 115, a Nick Selman wedyn yn taro 70 wrth i’r Cymry gwrso am fuddugoliaeth.

Yn 2016, tarodd David Lloyd a Graham Wagg ganred yr un ar ôl i Swydd Gaint adeiladu mantais batiad cyntaf o 228, ond colli o ddeg wiced oedd hanes Morgannwg.

Cyn hynny, gorffennodd eu pedair gêm flaenorol yn gyfartal.

Carfan Caint: S Billings (capten), D Bell-Drummond, Z Crawley, J Denly, S Dickson, H Kuhn, H Podmore, D Stevens, G Stewart, M Claydon, A Riley, M Henry, O Robinson

Carfan Morgannwg: M Hogan (capten), S Cook, J Murphy, N Selman, K Carlson, C Cooke, G Wagg, K Bull, R Smith, T van der Gugten, J Lawlor, C Meschede

Sgorfwrdd