Mae mab cyn-gricedwr Morgannwg wedi cyflwyno papur ar dymor aflwyddiannus Clwb Criced Morgannwg – ond 1976, ac nid eleni, sy’n cael sylw ganddo.

Myfyriwr ymchwil yw Mhrifysgol Abertawe yw Stephen Hedges, mab y diweddar Bernard Hedges, cyn-fatiwr agoriadol y sir, ac fe fu’n gweithio o dan oruchwyliaeth Dr Martin Johnes yn Adran Hanes y brifysgol.

Teitl ei draethawd MA yw The Way of the Dragon: Wilfred Wooller, Glamorgan County Cricket Club and the modernisation of cricket 1958-1977. Mae’n canolbwyntio ar gyfnod cythryblus yn hanes y sir o dan arweiniad Wilfred Wooller.

Fe gyflwynodd ei bapur yng nghynhadledd Cymdeithas Haneswyr Chwaraeon Prydain ym Mhrifysgol Westminster yr wythnos ddiwethaf.

Cofiant i’w dad

Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 2014, aeth Stephen Hedges ati i gofnodi hanes ei fywyd cynnar ym Mhontypridd a’i yrfa fel cricedwr proffesiynol yn chwarae i Forgannwg.

Roedd Wilfred Wooller, cyn-ysgrifennydd y clwb, yn ffigwr allweddol yn hanes y sir adeg gyrfa ei dad a bwriad Stephen Hedges yn wreiddiol oedd edrych ar y cyfnod o ganol y 1950au i 2013.

Ond fe ganolbwyntiodd yn y pen draw ar flynyddoedd Wilf Wooller, gan ei fod yn “ffigwr mor ddylanwadol ym Morgannwg a chriced yn ehangach”, meddai Stephen Hedges wrth golwg360.

“Mewn gwirionedd, pennod ola’r MA oedd y papur, yn edrych ar 1976 oedd yn dymor gwael i Forgannwg, wrth iddyn nhw orffen tua gwaelod Pencampwriaeth y Siroedd ac roedd hi’n flwyddyn wael hefyd o ran y cystadlaethau undydd.”

Mwy na blwyddyn wael ar y cae

Ond yn ôl Stephen Hedges, roedd tymor 1976 yn llawer mwy na dim ond blwyddyn wael ar y cae, wrth i’r clwb wynebu trafferthion oddi ar y cae hefyd, a Wilfred Wooller yng nghanol yr helynt.

“Cafodd chwech o chwaraewyr eu bygwth â cholli eu swyddi. Ymddiswyddodd dau ohonyn nhw, gan gynnwys Roger Davis oedd bron â marw dros y clwb ar y cae yn 1972.

“Ac fe ddaeth tymor 1976 i ben gydag ymddiswyddiad Majid Khan o fod yn gapten ac yn gyfangwbl o’r clwb.”

Roedd gan y clwb drafferthion ariannol, wrth i’w dyledion gynyddu, ac roedd ganddyn nhw ddau ddewis – cynyddu incwm neu dorri costau. Yr olaf o’r rhain oedd dewis Wilf Wooller.

Ond fyddai’r broses ddim yn un hawdd, ac fe arweiniodd at gryn ffraeo o fewn y clwb.

Ychwanegodd Stephen Hedges, “Cyn ac yn ystod cyfnod cynnar 1976, gallech chi weld bod y pwyllgor yn gynyddol benderfynol o ddod o hyd i ffyrdd o dorri costau, ac roedden nhw’n gwybod na fyddai cael gwared ar chwaraewyr yn broses syml.

“Fe ddefnyddion nhw’r dyledion fel ffordd o ddisgyblu’r chwaraewyr, ac roedd y ffordd aethon nhw ati’n wael iawn. Dyna arweiniodd at y ddau ymddiswyddiad.”

Wilf Wooller – “dyn anodd”

Mae Wilf Wooller yn cael ei gofio fel un a gyfrannodd yn helaeth at lwyddiant Morgannwg ar hyd y blynyddoedd. Ond mae e’r un mor adnabyddus am fod yn “ddyn anodd”, fel yr eglura Stephen Hedges.

“Roedd e’n gallu mynd yn grac iawn os nad oedd pethau’n mynd o’i blaid, neu os oedd e’n teimlo bod rhywbeth o’i le.

“Fe ddaeth y cyfan i fwcwl ac roedd y bobol oedd wedi derbyn ei arweinyddiaeth a’i dymer oherwydd ei wybodaeth wych am griced a’r proffil a roddodd i Forgannwg y tu allan i Gymru, bellach wedi rhedeg allan o stem ac yn fwy parod i’w feirniadu fe.”

1976 v 2018 – tymhorau tebyg?

Er nad yw traethawd ymchwil Stephen Hedges yn ceisio cymharu’r sefyllfa yn 1976 â thrafferthion y sir yn 2018, mae’n cydnabod fod yna debygrwydd – a bod gwersi i’w dysgu er mwyn osgoi’r un sefyllfa eto.

Mae’n gyfnod o newid i’r sir ar hyn o bryd, wrth i’r prif weithredwr Hugh Morris benderfynu ar bolisi o feithrin sgiliau chwaraewyr o Gymru ar draul prynu chwaraewyr profiadol.

“Roedd argyfwng 1976 yn gynnyrch ceisio rhywbeth newydd, rhywbeth gwahanol, ond roedd nifer o’r bobol oedd yn arwain yn henffasiwn a chanddyn nhw hen ffordd o edrych ar y byd.”

Hugh Morris – pont rhwng y ddau gyfnod

Ac yntau’n brif weithredwr y sir erbyn hyn, llanc ar ddechrau ei yrfa fel cricedwr oedd Hugh Morris yn 1976, ac fe gafodd ei gyfweld gan Stephen Hedges fel rhan o’i waith ymchwil.

“Dywedodd e wrtha i fod y cyfnod hwn yn un anodd i Glwb Criced Morgannwg, nad oedden nhw’n ennill nac yn gystadleuol, nad oedd ganddyn nhw gyfleusterau i gynhyrchu chwaraewyr da o Gymru.”

Ymddeolodd Wilf Wooller o’r clwb yn 1977, y tymor pan gyrhaeddodd Morgannwg rownd derfynol Cwpan Gillette yn Lord’s.

Roedd y rhod yn dechrau troi, wrth i’r sir ganolbwyntio ar gystadlaethau undydd yn hytrach na’r Bencampwriaeth – un o brif resymau Majid Khan dros adael y sir.

Roedd hyn, meddai Stephen Hedges, yn arwydd y gallai’r tîm lwyddo – yn union fel yr oedd cyrraedd Diwrnod Ffeinals cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast y tymor diwethaf yn arwydd y gallai’r tîm ifanc presennol lwyddo.

“Mae yna allu i’w gael, ond y peth pwysig yw troi’r gallu hwnnw’n dîm cyson a llwyddiannus. Mae’n anodd.”

Cymhlethdod ychwanegol yr oes fodern

Erbyn hyn, meddai Stephen Hedges, mae ymdrechion oddi ar y cae i sicrhau criced rhyngwladol yng Nghaerdydd yn un ffactor sy’n tynnu sylw oddi ar sefyllfa’r sir ar y cae.

“Os ydych chi’n dibynnu ar griced rhyngwladol i’ch achub, a yw hynny’n golygu tynnu’ch llygaid oddi ar y bêl pan ddaw i ennill mewn criced sirol? Wn i ddim. Alla i ddim ateb, a wna i ddim ceisio ateb.

“Ond mae 1976 yn tynnu sylw at yr anawsterau oedd yn eu hwynebu criced sirol ar y pryd ac yn dal i’w hwynebu nawr wrth geisio’i dangos ei hun fel camp lwyddiannus yn y farchnad sydd ohoni.”

  • Bydd The Player from Ponty – The Life of Glamorgan Cricketer Bernard Hedges yn cael ei gyhoeddi gan wasg St. David’s Press ym mis Hydref.