Fe fydd tîm criced Morgannwg yn ail-afael yn eu batiad cyntaf yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yn Derby, 231 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf y Saeson.

Cafodd y tîm cartref eu bowlio allan am 251 wrth i’r capten Billy Godleman daro 95. Ond digon siomedig oedd perfformiad y batwyr eraill, wrth i Timm van der Gugten a Graham Wagg gipio tair wiced yr un.

Cipiodd y capten Michael Hogan ddwy wiced, ac roedd wiced yr un i David Lloyd a’r troellwr Kieran Bull, sy’n chwarae yn ei gêm gyntaf i’r tîm cyntaf ers 2015.

Mae Stephen Cook, trydydd batiwr tramor Morgannwg y tymor hwn, wrth y llain ar bump heb fod allan, ar ôl i Forgannwg fatio am chwe phelawd ar ddiwedd y diwrnod cyntaf cyn i’r golau bylu.

Sesiwn y bore

Ar ôl dewis bowlio, fe gymerodd hi lai na hanner awr i Forgannwg gipio wiced gyntaf Swydd Derby, wrth i Tom Lace, sydd ar fenthyg o Middlesex, gael ei fowlio gan Timm van der Gugten, wrth benderfynu peidio â tharo pelen syth, a’r tîm cartre’n 32 am un.

Gallai Morgannwg fod wedi cipio ail wiced o fewn dim o dro, ond cafodd y bêl ei gollwng yn sgwâr gan Kiran Carlson oddi ar yr un bowliwr ac fe oroesodd Billy Godleman.

Ond fe ddaeth yr ail wiced yn y pen draw, wrth i Wayne Madsen sgubo’r bêl yn wael ar ochr y goes oddi ar fowlio Michael Hogan, wrth i Tom Cullen gipio’i ddaliad cyntaf i’r sir yn ei gêm gyntaf, a’r sgôr yn 41 am ddwy.

Roedd y Saeson yn 50 am dair wrth i Alex Hughes daro pelen isel i’r wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten am naw.

Yn fuan wedyn, pan oedd e heb fod allan ar 21, cyrhaeddodd capten Swydd Derby, Billy Godleman y garreg filltir o 4,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Fe oedd yr unig fatiwr lwyddodd i ymdopi â bowlio cywir Morgannwg yn ystod y bore, wrth adeiladu partneriaeth o 52, gyda Gary Wilson, oedd allan oddi ar belen ola’r bore wrth i David Lloyd daro’i goes o flaen y wiced am 26, a’r sgôr yn 102 am bedair. Hon oedd ei hanner canfed wiced mewn gemau dosbarth cyntaf.

Sesiwn y prynhawn

Daeth cawod o law dros ginio, ac roedd oedi o ugain munud cyn i’r chwaraewyr ddychwelyd. O fewn dim o dro, cyrhaeddodd Billy Godleman ei hanner canred oddi ar 96 o belenni, ar ôl taro pedwar pedwar – a thri ohonyn nhw’n dod o fewn pedair pelen i’w gilydd.

Ond fe gollodd ei bartner, Matt Critchley, yn fuan wedyn wrth i Michael Hogan daro’i goes o flaen y wiced am 26, a’r sgôr yn 143 am bump.

Roedd y Saeson yn 176 am chwech wrth i’r troellwr Kieran Bull gipio’i wiced gynta’r tymor hwn. Camodd Harvey Hosein i lawr y llain a chael ei stympio gan Chris Cooke am ddeg. Daeth y glaw unwaith eto i orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae, ac fe gafodd te ei gymryd yn gynnar.

Sesiwn ola’r dydd

Roedd Martin Andersson a Billy Godleman wedi ychwanegu 29 at y sgôr cyn i Graham Wagg daro coes Andersson o flaen y wiced am 11, a’r sgôr yn 205 am saith.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Forgannwg gipio’r wiced fawr, wrth i Billy Godleman, ar 95, ergydio’n wyllt y tu allan i’r ffon agored oddi ar fowlio Graham Wagg, a darganfod dwylo diogel y wicedwr Chris Cooke, a’r sgôr yn 214 am wyth.

Roedden nhw’n 224 am naw wrth i Graham Wagg daro coes Lockie Ferguson o flaen y wiced am bedwar.

Daeth y batiad i ben pan glatsiodd Ravi Rampaul ar ochr y goes a chael ei ddal gan Stephen Cook oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 18, a Swydd Derby i gyd allan am 251 gyda 13 pelawd yn weddill o’r diwrnod.

Batiad cyntaf Morgannwg

Roedd batwyr Morgannwg, Stephen Cook a Connor Brown, yn 20 heb golli wiced pan bylodd y golau i ddod â therfyn i’r diwrnod cyntaf.

Roedd Stephen Cook heb fod allan ar bump, a Connor Brown wrth y llain ar naw.

Sgorfwrdd