Mae prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, Robert Croft wedi cyhoeddi pedwar newid yn y garfan i herio Swydd Derby yn y gêm Bencampwriaeth yn Derby sy’n dechrau heddiw (dydd Mawrth, Medi 4, 10.30yb).

Mae’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede wedi anafu llinyn y gâr, ond mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten yn dychwelyd am y tro cyntaf ers iddo ddatgymalu ei ysgwydd.

Mae batiwr tramor newydd y sir, Stephen Cook i mewn yn lle Nick Selman, a’r troellwr ifanc Kieran Bull i mewn yn lle Andrew Salter ar ôl creu argraff fel aelod o’r ail dîm eleni.

Y pedwerydd newid yw fod y batiwr Jeremy Lawlor wedi’i gynnwys yn lle’r batiwr agoriadol ifanc Jack Murphy.

Stephen Cook

Ar ôl i Forgannwg golli’r batiwr o Awstralia, Shaun Marsh oherwydd anaf i’w ysgwydd, ac yna ei gydwladwr Usman Khawaja oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol, maen nhw wedi arwyddo Stephen Cook o Dde Affrica am weddill y tymor.

Mae’r batiwr agoriadol wedi sgorio dros 14,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa ar gyfartaledd o fwy na 40.

Mae’r sir, wrth ddilyn polisi o feithrin doniau chwaraewyr ifainc o Gymru, wedi bod yn brin iawn o brofiad y tymor hwn, ac maen nhw’n gobeithio y gall eu batiwr newydd helpu’r tîm sydd wedi bod yn isel eu hyder ar ôl ennill un gêm Bencampwriaeth yn unig y tymor hwn.

Gemau’r gorffennol

Collodd Morgannwg a Swydd Derby yn drwm yn eu gemau diwethaf yn y Bencampwriaeth – y Cymry yn erbyn Swydd Warwick yn Llandrillo yn Rhos, a’r Saeson yn erbyn Swydd Caint yn Derby.

Pan heriodd y ddwy sir ei gilydd yn Derby y tymor diwethaf, roedd y glaw yn drech na nhw a’r tymor blaenorol, daeth cymysgedd o eira, eirlaw a chenllysg i sicrhau gornest gyfartal.

Ond pan wynebon nhw ei gilydd yn Chesterfield yn 2015, roedd Morgannwg ar fin ennill pan amddiffynnodd y batiwr Hamish Rutherford yn gadarn i achub ei dîm a sicrhau gêm gyfartal.

Dydi Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Derby ers 2006, pan darodd yr Awstraliad Mark Cosgrove 233 – sgôr gorau ei yrfa – i sicrhau buddugoliaeth o chwe wiced.

Yn wir, mae Morgannwg wedi colli pedair allan o’u pum gêm Bencampwriaeth ddiwethaf ar y cae hwn.

Swydd Derby: B Godleman (capten), T Lace, W Madsen, A Hughes, G Wilson, M Critchley, H Hosein, M Andersson, T Palladino, L Ferguson, R Rampaul

Morgannwg: M Hogan (capten), S Cook, C Brown, T Cullen, D Lloyd, K Carlson, C Cooke, G Wagg, K Bull, R Smith, T van der Gugten

Sgorfwrdd