Fe fydd batiwr 21 oed Morgannwg, Aneurin Donald yn gadael y sir yn barhaol ar ddiwedd y tymor er mwyn ymuno â Swydd Hampshire.

Mae’r batiwr ifanc o Abertawe wedi gwrthod cynnig o gytundeb tair blynedd gyda’r Cymry, gan ymuno â’i sir newydd ar fenthyg am weddill y tymor ac yna ar gytundeb dwy flynedd.

Chwaraeodd e yn ei gêm gyntaf i Forgannwg yn 2014, gan fynd ymlaen i sgorio dros 2,000 o rediadau mewn gemau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o ychydig dros 30.

Dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Ein strategaeth yn gynyddol yw canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd yn y tîm cyntaf i chwaraewyr ifainc disglair sydd wedi dod drwy lwybrau Morgannwg.

“Eleni, chwaraeodd deg chwaraewr a ddaeth drwy ein rhaglen mewn criced dosbarth cyntaf, gan gynnwys Aneurin a chwaraeodd am y tro cyntaf yn 17 oed.”

Eglurodd fod y sir wedi cynnig cytundeb tair blynedd “i’w gadw gyda Morgannwg… y lle gorau, yn ein tyb ni, iddo ddatblygu ei griced ymhellach.”

Ychwanegodd fod y sir yn “siomedig” o’i golli, ond eu bod yn “diolch am ei gyfraniad” ac yn “dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol”.

 ‘Diolchgar’

Yn dilyn y newyddion, dywedodd Aneurin Donald: “Dw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd ynghlwm wrth griced yng Nghymru sydd wedi fy helpu i ddatblygu’r holl ffordd i wireddu fy mreuddwyd o chwarae criced i Forgannwg.

“Dw i wedi mwynhau fy amser ma’s draw yma, a bydd gan y clwb le arbennig yn fy nghalon am byth.

“Hoffwn ddymuno pob dymuniad da ar gyfer y dyfodol i’r chwaraewyr, y cefnogwyr a’r staff.”