Mae Ruaidhri Smith wedi cipio pum wiced i Forgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Gorffennodd e gyda phum wiced am 87 – ffigurau gorau ei yrfa mewn gêm dosbarth cyntaf i’r sir, wrth i Swydd Durham gael eu bowlio allan am 295.

Manylion

Ar ôl dechrau’r dydd ar 75 heb golli wiced, cafodd Cameron Steel ei fowlio am 32 gan y bowliwr sy’n cynrychioli’r Alban, a’r sgôr yn 94 am un. Collodd Gareth Harte ei wiced yntau yn yr un modd am 13, a’r sgôr yn 112 am ddwy.

Tarodd Craig Meschede goes Alex Lees o flaen y wiced am 69, a’r sgôr yn 124 am dair cyn i Ruaidhri Smith gipio’i drydedd wiced wrth i Michael Richardson gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am naw.

Daeth ei bedwaredd wiced pan gafodd Graham Clark ei ddal gan Nick Selman am 11, a’r sgôr yn 144 am bump. Tarodd Craig Meschede goes Paul Collingwood o flaen y wiced am wyth gyda’r sgôr yn 158 am chwech.

Cipiodd Ruaidhri Smith ei bumed wiced pan gafodd Stuart Poynter ei ddal yn y slip gan David Lloyd am 29, a’r sgôr erbyn hynny’n 219 am saith.

Cafodd Barry McCarthy ei redeg allan gan Craig Meschede am bedwar wrth i Swydd Durham gyrraedd 237 am wyth.

Adeiladodd Matt Salisbury ac Axar Patel 47 am y nawfed wiced cyn i Salisbury gael ei fowlio gan Michael Hogan am chwech, a’r sgôr wedyn yn 284 am naw.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Chris Rushworth ei fowlio gan Michael Hogan am bedwar, a Swydd Durham i gyd allan am 295 erbyn amser te – mantais batiad cyntaf o 141. Roedd Axar Patel heb fod allan ar 95.