Mae tîm criced Morgannwg dan bwysau ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Durham yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Ar ôl i’r Cymry gael eu bowlio allan am 154 yn eu batiad cyntaf, fe fydd y Saeson yn dechrau’r diwrnod ar 75 heb golli wiced.

Daw’r perfformiad siomedig diweddaraf gan fatwyr Morgannwg wythnosau’n unig ar ôl iddyn nhw gael eu bowlio allan am 88 ac 85 yn erbyn Sussex yn Hove o dan y llifoleuadau.

Manylion

Ar ôl dechrau’n hwyr yn sgil y glaw, manteisiodd bowlwyr Swydd Durham ar yr amodau o’r dechrau’n deg ar ôl penderfynu bowlio’n gyntaf ar ddiwrnod cymylog.

Ar ôl sgorio 17, cafodd Jack Murphy ei ddal gan Michael Richardson yn y slip oddi ar fowlio Chris Rushworth. Dilynodd Connor Brown a Nick Selman yn fuan wedyn, y naill wedi’i ddal gan Richardson a’r llall wedi’i ddal gan y wicedwr Stuart Poynter, ac roedd Morgannwg yn 26 am dair erbyn amser cinio.

Batiodd Kiran Carlson a David Lloyd am 16 o belawdau wrth adeiladu partneriaeth o 51 am y bedwaredd wiced cyn i Carlson gael ei fowlio gan Matt Salisbury am 33. Cafodd Chris Cooke ei ddal gan Paul Collingwood oddi ar yr un bowliwr ddwy belawd yn ddiweddarach, a Morgannwg bellach yn 81 am bump.

Cafodd David Lloyd ei ddal gan Paul Collingwood oddi ar ei fowlio’i hun am 31 wrth i Forgannwg golli eu holl fatwyr cydnabyddedig, a’r sgôr yn 89 am chwech.

Cipiodd Barry McCarthy wiced Craig Meschede yn fuan wedyn am chwech, wrth i’r batiwr gael ei ddal gan y wicedwr, a’r sgôr yn 91 am saith.

Cafodd Ruaidhri Smith ei fowlio gan Chris Rushworth am 36 ar ddiwedd partneriaeth hollbwysig i Forgannwg, ac fe gipiodd y troellwr o India, Axar Patel ddwy wiced ola’r batiad wrth daro coes Lukas Carey o flaen y wiced a bowlio’r capten Michael Hogan.

Cipiodd Matt Salisbury dair wiced am 34 oddi ar 13 o belawdau.

Batiad yr ymwelwyr

Os oedd bowlwyr Morgannwg yn gobeithio cael yr un cymorth â’u gwrthwynebwyr wrth fowlio, roedd rhagor o siom eto i ddod i’r Cymry.

Tarodd Alex Lees 53 heb fod allan wrth iddo fe a’i bartner, Cameron Steel gyrraedd 75 heb golli wiced erbyn diwedd y dydd, 79 rhediad yn unig y tu ôl i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg.

Mae e wedi taro 11 pedwar hyd yn hyn ond fe ddaeth terfyn ar hwyl y Saeson wrth i’r golau bylu i ddod â therfyn i’r chwarae gydag wyth pelawd yn weddill.

Sgorfwrdd