Mae Morgannwg wedi colli o 98 rhediad yn eu gêm ugain pelawd yn erbyn Sussex yn y Vitality Blast yn Hove – ac mae eu lle yn rownd yr wyth olaf yn y fantol.

Cawson nhw eu bowlio allan am 88 wrth i’r Saeson ennill eu gêm gyntaf yn Hove yn y gystadleuaeth. Roedden nhw’n 50 heb golli wiced ar ddechrau’r batiad, cyn colli’r holl wicedi am 38 rhediad.

Cipiodd y bowliwr cyflym llaw chwith, Tymal Mills hat-tric yn niwedd y gêm i sicrhau’r fuddugoliaeth, a hynny ar ôl i Laurie Evans daro 63 heb fod allan wrth i’w dîm sgorio 186 am bump.

Gorffennodd Tymal Mills gyda thair wiced am 20, a chipiodd Rashid Khan dair wiced am naw.

Mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl, un pwynt uwchlaw Sussex. Ond mae’r Saeson wedi chwarae un gêm yn llai, sy’n golygu y gallai gornest Morgannwg yn erbyn Surrey yng Nghaerdydd nos Wener fod yn dyngedfennol.

Cyfnod clatsio

Dechreuodd Morgannwg yn gadarn ar ôl galw’n gywir a gwahodd Sussex i fatio, gan gipio dwy wiced yn ystod y cyfnod clatsio.

Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, oedd y batiwr cyntaf allan, wedi’i ddal gan Aneurin Donald wrth yrru’r troellwr Andrew Salter yn syth at y maeswr ar y ffin ar ochr y goes, a’r sgôr yn 13 am un ar ddiwedd yr ail belawd.

Dilynodd yr Awstraliad Aaron Finch yn y bedwaredd belawd, wedi’i ddal yn yr un safle gan Michael Hogan oddi ar fowlio Timm van der Gugten, a’r sgôr yn 25 am ddwy. Llwyddon nhw wedyn i gyrraedd 48 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Batio cadarn cyn colli wicedi

Daeth sefydlogrwydd i fatiad Sussex ar ôl colli’r wicedi cynnar, wrth i Laurie Evans a Delray Rawlins adeiladu partneriaeth o 60 mewn 7.2 pelawd, cyn i Rawlins daro ergyd yn syth i’r awyr oddi ar fowlio Graham Wagg, a chael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 35 oddi ar 20 pelen.

Dilynodd Tom Bruce saith pelen yn ddiweddarach, wrth iddo gael ei ddal gan Aneurin Donald oddi ar fowlio Andrew Salter am un, a’r sgôr bellach yn 89 am bedair yn y deuddegfed pelawd.

Partneriaeth allweddol

Roedd Sussex i’we gweld mewn rhywfaint o drafferth ar 89 am bedair gydag wyth pelawd yn weddill, ond daeth Laurie Evans a Michael Burgess ynghyd i adeiladu partneriaeth pumed wiced o 74 mewn saith pelawd.

Roedden nhw’n 163 am bump pan ddaeth batiad Michael Burgess i ben wrth iddo gael ei ddal yn gampus gan Andrew Salter oddi ar fowlio Graham Wagg am 39 ar ddiwedd y bedwaredd belawd ar bymtheg. Roedd e wedi taro pedwar pedwar a dau chwech oddi ar 26 o belenni.

Roedd Laurie Evans heb fod allan am 63 oddi ar 47 o belenni, ar ôl taro pedwar pedwar a thri chwech, a’i dîm wedi cyrraedd 186 am bump erbyn diwedd y batiad. Roedd Jofra Archer heb fod allan ar 22 ar ôl taro tri phedwar a dau chwech oddi ar chwe phelen.

Cyfnod clatsio Morgannwg

Wrth gwrso 187 i ennill, dechreuodd Morgannwg yr un mor gadarn â’r Saeson, wrth i Craig Meschede ac Aneurin Donald adeiladu partneriaeth agoriadol o 50 mewn 4.3 pelawd, cyn i Meschede gael ei fowlio gan y troellwr Rashid Khan am 26 yn y bumed pelawd.

Collodd Morgannwg eu hail wiced bum pelen yn ddiweddarach wrth i’r capten Colin Ingram ergydio’n wyllt i’r ochr agored, a chael ei ddal gan Aaron Finch oddi ar fowlio Jofra Archer am un, a’r sgôr yn 54 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Wiced ar ôl wiced

Ar ôl colli’r ddau fatiwr profiadol, yn nwylo’r Cymry ifainc roedd tynged Morgannwg wrth i Aneurin Donald a Kiran Carlson ddod ynghyd.

Ond collodd Morgannwg y ddau ohonyn nhw yn y nawfed pelawd.

Cafodd Kiran Carlson ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored am 14 gan Laurie Evans oddi ar fowlio Chris Jordan, a’r sgôr yn 70 am dair. Aeth 70 am dair yn 71 am bedair pan gafodd Aneurin Donald ei ddal yn sgwâr ar y ffin agored gan Aaron Finch am 27.

Ac roedden nhw’n 74 am bump pan darodd y troellwr llaw chwith Danny Briggs goes David Lloyd o flaen y wiced am ddau ar ddiwedd y degfed pelawd. Ond roedd y camerâu’n dangos na fyddai’r bêl wedi taro’r wiced.

Cwympodd y chweched wiced yn y drydedd pelawd ar ddeg, wrth i Graham Wagg dynnu’r bêl i Delray Rawlins oddi ar fowlio Rashid Khan am bedwar, a’r sgôr yn 87 am chwech. Roedden nhw wedyn yn 88 am saith, wrth i’r troellwr dwyllo Chris Cooke a’i fowlio am 11.

Hat-tric

Daeth yr ornest i ben gyda hat-tric i’r bowliwr cyflym llaw chwith Tymal Mills.

Collodd y Cymry wiced rhif wyth pan gafodd Andrew Salter ei fowlio am un, a’r sgôr yn 88 am wyth ar ôl 13.1 pelawd. Cafodd Timm van der Gugten ei ddal gan y wicedwr Michael Burgess belen yn ddiweddarach, a’r sgôr yn 88 am naw.

Daeth y gêm i ben pan gafodd Michael Hogan ei fowlio heb sgorio, a Sussex yn fuddugol o 98 rhediad.