Fe fydd Morgannwg yn gobeithio ymestyn eu rhediad o fuddugoliaethau yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast i bedair gêm heno (6.30yh), ond dydy Essex erioed wedi colli yn y gystadlaeuth hon yng Nghymru.

Roedd hi’n wythnos lwyddiannus i’r Cymry’r wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw guro Middlesex yn Richmond, Surrey ar yr Oval a Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Maen nhw’n bumed yn y tabl erbyn hyn, ac wedi cadw eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fyw. Mae ganddyn nhw gemau mewn llaw dros nifer o’u gwrthwynebwyr.

Mae Essex, fodd bynnag, ar waelod y tabl.

Pan heriodd Morgannwg Essex yn Chelmsford ar ddechrau’r gystadleuaeth, roedden nhw’n fuddugol oddi ar belen ola’r ornest wrth i Chris Cooke daro 60 heb fod allan oddi ar 29 o belenni. Adeiladodd e bartneriaeth allweddol o 61 gyda Timm van der Gugten.

Gemau’r gorffennol

Mae Essex yn ddi-guro mewn gemau ugain pelawd yng Nghymru.

Doedd dim modd cynnal yr ornest rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd y tymor diwethaf oherwydd y glaw. Enillon nhw o saith wiced yn 2016, er i Aneurin Donald daro hanner canred i Forgannwg.

Yn 2015, tarodd Ravi Bopara 81 heb fod allan oddi ar 53 o belenni wrth i’r Saeson ennill o bum wiced. Roedd tair wiced hefyd i gyn-fowliwr cyflym tramor Morgannwg, Shaun Tait.

Tarodd Jacques Rudolph a Murray Goodwin hanner canred yr un yn 2015, ond colli oedd hanes Morgannwg bryd hynny hefyd, o saith wiced.

Cyn hynny, collodd Morgannwg o naw wiced yn 2010, ac o chwe wiced yn 2011.

Morgannwg: C Ingram (capten), N Selman, K Carlson, A Donald, C Cooke, C Meschede, G Wagg, A Salter, R Smith, T van der Gugten, M Hogan.

Essex: A Wheater, V Chopra, P Walter, R ten Doeschate (capten), M Pepper, R Bopara, A Zaidi, S Harmer, M Quinn, P Siddle, A Zampa. 

Sgorfwrdd