Mae Morgannwg wedi curo Middlesex o saith wiced mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Richmond gyda mwy na saith pelawd yn weddill.

Tra bod Morgannwg wedi ennill tair gêm ugain pelawd yn olynol, dyma wythfed colled y Saeson mewn naw gêm yn y gystadleuaeth.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, cafodd Middlesex eu bowlio allan am 131 mewn union ugain pelawd.

Cipiodd Ruaidhri Smith bedair wiced am chwech rhediad mewn pedair pelawd – y gyfradd economi orau erioed i Forgannwg gan fowliwr sydd wedi bowlio’i holl belawdau mewn gêm. Ac fe redodd e Tom Barber allan i ddod â batiad y Saeson i ben.

Cipiodd Timm van der Gugten bedair wiced am 31 yn ei bedair pelawd yntau, ac roedd un wiced i Graham Wagg

Wrth gwrso 132 am y fuddugoliaeth, tarodd y capten Colin Ingram 46 heb fod allan wrth ddychwelyd i’r tîm ar ôl salwch, ac fe gyfrannodd Kiran Carlson 40 at y cyfanswm wrth i Forgannwg gyrraedd y nod mewn 12.5 pelawd.

Batiad Middlesex

Cafodd Nick Gubbins ei ddal gan Graham Wagg yn y cyfar am un oddi ar fowlio Ruaidhri Smith ar ôl saith pelen, cyn i Stevie Eskinazi gael ei fowlio gan yr un bowliwr bum pelen yn ddiweddarach.

Roedd y Saeson yn 11 am dair pan gafodd Eoin Morgan ei fowlio gan Ruaidhri Smith am un yn y bedwaredd pelawd, ac yn 20 am bedair pan gwympodd wiced Paul Stirling yn yr un modd yn y chweched pelawd.

Cipiodd Timm van der Gugten wicedi James Franklin a Robbie White o fewn tair pelen i’w gilydd wrth daro eu coesau o flaen y wiced, y naill am 12 a’r llall heb sgorio. Erbyn hynny, roedd y Saeson yn 39 am chwech yn y degfed pelawd.

Adfywiad o ryw fath

Wrth geisio taro’n ôl, adeiladodd James Fuller a George Scott bartneriaeth o 40, cyn i Scott gael ei ddal gan Timm van der Gugten oddi ar fowlio Graham Wagg yn y bymthegfed pelawd, a’r sgôr bellach yn 79 am saith.

Timm van der Gugten gipiodd y ddwy wiced nesaf, wrth fowlio Steven Finn am dri cyn i Colin Ingram ddal Ravi Patel am 12, a’r sgôr yn 109 am naw.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Tom Barber ei redeg allan gan Ruaidhri Smith, ac roedd James Fuller heb fod allan ar 46.

Rhediadau cosb

Fe allai’r cyfanswm fod wedi bod chwech rhediad yn llai nag yr oedd yn y pen draw.

Ond fe gafodd Morgannwg gosb o bump rhediad am fowlio’r pelawdau’n rhy araf, a hynny am fod Timm van der Gugten wedi bowlio pelen lydan oddi ar belen ola’r belawd olaf ond un.

Cafodd y belen ychwanegol cyn dechrau’r belawd olaf ei bowlio ar ôl yr amser a ganiateir.

Cwrso’n llwyddiannus

Wrth gwrso 132 i ennill, cafodd Craig Meschede ei ddal gan Nick Gubbins ar y ffin yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Steven Finn heb sgorio, a Morgannwg yn 0 am un ar ôl dwy belen.

Cafodd Aneurin Donald ei fowlio gan Steven Finn am 15 yn y drydedd belawd, a’r sgôr yn 25 am ddwy.

Ond tarodd Kiran Carlson 40 oddi ar 22 o belenni cyn cael ei ddal yn gampus gan Steve Eskinazi ar ochr y goes oddi ar fowlio George Scott. Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 77 am dair yn yr wythfed pelawd.

Yn ystod ei fatiad, tarodd Kiran Carlson bum pedwar a dau chwech.

Ond fe gyrhaeddodd Morgannwg y nod wrth i Colin Ingram daro 46 oddi ar 30 o belenni, a tharodd Chris Cooke ddau chwech yn olynol oddi ar fowlio Paul Stirling i orffen y gêm heb fod allan ar 25.