Mae Morgannwg yn teithio i gae Old Deer Park yn Richmond heddiw (dydd Sul, Awst 5, 2.30yp) i herio Middlesex mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.
Cafodd y Cymry hwb nos Wener wrth iddyn nhw guro Swydd Gaerloyw o ddau rediad, wedi i Craig Meschede daro 77 heb fod allan.
Ond maen nhw’n dal yn y chweched safle yn y tabl, un safle uwchlaw eu gwrthwynebwyr heddiw.
Gemau’r gorffennol
Pedair gêm yn unig y mae Morgannwg wedi’u chwarae ar gae Old Deer Park.
Cawson nhw fuddugoliaeth swmpus o naw wiced yn 2016, wrth i Mark Wallace efelychu ei sgôr gorau erioed, 69 heb fod allan, mewn gêm ugain pelawd.
Roedd y Cymry’n fuddugol o chwe wiced yn 2014 wrth i Jim Allenby daro canred wrth adeiladu partneriaeth o 136 gyda Jacques Rudolph.
Yn 2011, buddugoliaeth o bedair wiced gafodd Morgannwg wrth i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker gipio tair wiced am 11, cyn i Alviro Peterson daro 72.
Daeth unig fuddugoliaeth y Saeson yn erbyn Morgannwg yn Richmond yn 2010 – 0 84 rhediad – pan darodd Eoin Morgan 79 heb fod allan.
Y timau
Mae disgwyl i gapten Morgannwg, Colin Ingram ddychwelyd ar ôl wythnos o salwch, tra bod Graham Wagg wedi’i enwi yn y garfan er iddo gael ergyd i’w ben wrth fowlio nos Wener.
Mae lle yn y garfan hefyd i’r bowliwr cyflym ifanc o Sir Fynwy, Callum Taylor.
Mae ambell chwaraewr yng ngharfan Middlesex sydd â chysylltiad â Morgannwg, sef y Cymro James Harris, cyn-fowliwr cyflym y sir, a’r cyn-chwaraewr dramor o Seland Newydd, James Franklin.
Carfan Middlesex: E Morgan (capten), T Barber, S Eskinazi, S Finn, J Franklin, J Fuller, N Gubbins, J Harris, M Holden, R Patel, G Scott, J Simpson, P Stirling, R White
Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), N Selman, K Carlson, A Donald, C Cooke, C Meschede, J Lawlor, G Wagg, A Salter, R Smith, T van der Gugten, M Hogan, L Carey, T Cullen, C Taylor