Mae chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, Craig Meschede wedi cael ei ddewis i gynrychioli’r Almaen mewn gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan T20 y Byd.

Daw’r newyddion ddau ddiwrnod yn unig ar ôl iddo fe daro 77 heb fod allan yn y fuddugoliaeth o ddau rediad dros Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd nos Wener.

Er iddo gael ei eni yn Ne Affrica, mae’n gymwys i gynrychioli’r Almaen am fod ei dad yn Almaenwr.

Fe fydd yr Almaen yn herio Denmarc, Ffrainc, Awstria, Cyprus a Phortiwgal mewn gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan T20 y Byd.

Bydd y gemau rhagbrofol yn cael eu cynnal yn yr Iseldiroedd rhwng Awst 29 a Medi 3, a’r ddau dîm gorau o bob grŵp yn symud ymlaen i’r Ffeinals Rhanbarthol, sydd wedi derbyn statws rhyngwladol llawn gan y Bwrdd Criced Rhyngwladol (ICC).

Yn y Ffeinals Rhanbarthol, fe fydd gwledydd o Asia, Ewrop, Affrica, yr Americas, Ynysoedd y De a Dwyrain Asia yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.