Daeth cadarnhad na fydd dau Awstraliad Morgannwg, Usman Khawaja a Joe Burns ar gael am weddill eu hymgyrch ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Bydd Usman Khawaja yn dychwelyd i’w famwlad ar ôl gêm Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerloyw nos Wener, a hynny am ei fod e wedi’i ddewis i gynrychioli tîm ‘A’ Awstralia ar daith yn India.

Yn y cyfamser, mae Joe Burns eisoes wedi dychwelyd er mwyn cael triniaeth ar ei gefn.

Fydd y naill na’r llall, felly, ddim ar gael ar gyfer chwe gêm ugain pelawd ola’r sir y tymor hwn.

Usman Khawaja

Cafodd Usman Khawaja ei ddenu i Forgannwg yn wreiddiol ar gyfer y Vitality Blast, ond mae e hefyd wedi bod yn chwarae yn y Bencampwriaeth ar ôl i Awstraliad arall, Shaun Marsh, ddychwelyd i Awstralia ar ôl anafu ei ysgwydd.

Fe oedd y batiwr cyntaf yn hanes Morgannwg i daro canred ym mhob un o’i dair gêm gyntaf.

Roedd e hefyd wedi cynnig cryn dipyn o brofiad i dîm o Gymry ifanc.

Joe Burns

Yn y cyfamser, mae Joe Burns wedi anafu ei gefn, ac mae’r anaf wedi gwaethygu.

Fe gafodd e’r anaf yn y gêm ugain pelawd yn erbyn Sussex, ac fe waethygodd yn ystod y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham.

Fe fu’n rhaid iddo orffwys ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaerdydd – gêm a gafodd ei chanslo yn sgil y glaw – yn ogystal â’r fuddugoliaeth fawr dros Surrey ar yr Oval.

‘Cyfle i’r to iau’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae’n destun siom y bydd rhaid i Usman a Joe orffen eu cyfnod gyda Morgannwg yn gynnar.

“Mae’r ddau chwaraewr wedi bod yn wych yn yr ystafell newid ac mae Usman yn benodol wedi dangos ei fod e’n fatiwr o safon fyd-eang gyda’i berfformiadau.

“Hoffwn ddiolch i’r ddau chwaraewr am ddod i Forgannwg ar fyr rybudd ac am ddod â’u profiad helaeth i’r tîm.

“Bydd eu habsenoldeb, fodd bynnag, yn cynnig mwy o gyfleoedd i’n chwaraewyr iau oedd wedi dangos eu talent a’u potensial yn erbyn tîm cryf Surrey nos Fawrth.”