Fe fydd Morgannwg yn teithio i gae’r Oval heno (6.30yh) heb eu batiwr tramor Joe Burns wrth iddyn nhw herio Surrey yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Daeth yr Awstraliad i Forgannwg yn lle ei gydwladwr Shaun Marsh, sydd wedi anafu ei ysgwydd, ond mae yntau bellach wedi anafu ei gefn ar ôl dim ond tair gêm.

Dydi hi ddim yn glir ar hyn o bryd am byd hyd y bydd e allan, ac mae Nick Selman, un arall sy’n enedigol o Awstralia, wedi’i alw i’r garfan yn ei le.

Mae Morgannwg yn chweched yn y tabl ar hyn o bryd ar ôl i’w gêm ddydd Sul gael ei chanslo oherwydd y glaw, tra bod Surrey yn bumed, ddau bwynt uwchlaw’r Cymry.

Un newid sydd yng ngharfan Surrey, wrth i’r bowliwr cyflym o Dde Affrica, Morne Morkel gymryd lle Sam Curran, sydd wedi’i gynnwys yng ngharfan Lloegr.

Bydd y gêm yn fyw ar Sky Sports.

 Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg yn ddi-guro mewn gemau ugain pelawd ar gae’r Oval, ar ôl ennill pob un o’u pum gêm yno.

Roedden nhw’n fuddugol o chwe rhediad y tymor diwethaf, wrth i Aneurin Donald daro 76 – ei sgôr gorau erioed yn y gystadleuaeth – cyn i Michael Hogan gipio’r fuddugoliaeth gyda phelawd olaf lwyddiannus.

Yn 2016, yr Iseldirwr Timm van der Gugten oedd seren y gêm wrth iddo gipio pedair wiced am 14 wrth i’r Cymry ennill o wyth wiced.

Buddugoliaeth o bedwar rhediad gafodd Morgannwg yn 2015, wrth i Jacques Rudolph daro hanner canred.

Surrey: A Finch, J Roy, N Maddinson, B Foakes, O Pope, R Clarke, T Curran, S Borthwick, M Pillans, J Batty, J Dernbach (capten) 

Morgannwg: A Donald, U Khawaja, K Carlson, N Selman, C Cooke (capten), C Meschede, G Wagg, A Salter, R Smith, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd