Colli o 30 rhediad yn erbyn Swydd Gaerloyw yn y Vitality Blast

 

Tarodd capten Swydd Gaerloyw, Michael Klinger 77 oddi ar 50 o belenni wrth i’w dîm guro Morgannwg o 30 rhediad mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Cheltenham.

Wrth i Forgannwg gwrso 198 i ennill, cipiodd y bowlwyr cyflym Ryan Higgins a seren y gêm Andrew ‘AJ’ Tye dair wiced yr un i sicrhau’r fuddugoliaeth, wrth i Forgannwg orffen ar 167 am naw.

Batiad Swydd Gaerloyw

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, dechreuodd Swydd Gaerloyw’n gryf, wrth i Miles Hammond gosbi Morgannwg yn ystod y cyfnod clatsio gyda chwech a phedwar ym mhob un o’r tair pelawd cyntaf.

Ychwanegodd ei bartner Michael Klinger chwech oddi ar fowlio Hogan yn y drydedd pelawd, cyn i Hammond daro chwech a phedwar yn y bedwaredd pelawd cyn cael ei fowlio am 34 gan Timm van der Gugten.

Ond parhau i glatsio wnaeth Swydd Gaerloyw yn niwedd y cyfnod clatsio, wrth i Michael Klinger ac Ian Cockbain daro pedwar yr un i gyrraedd 59 am un.

Morgannwg yn taro’n ôl

Llwyddodd Morgannwg i arafu’r gyfradd sgorio ryw ychydig wrth i’r rheolau maesu gael eu llacio.

Tarodd Michael Klinger bedwar oddi ar Colin Ingram yn y seithfed pelawd a bowliodd Andrew Salter belawd dynn yn yr wythfed.

Tynnodd Ian Cockbain belen gan Colin Ingram am chwech yn niwedd y nawfed pelawd wrth i’r Saeson gyrraedd 88 am un. Ond daeth wiced fawr arall i Forgannwg pan gafodd Ian Cockbain ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio Andrew Salter am 26.

Roedd yr unfed belawd ar ddeg yn un lwyddiannus i Forgannwg, wrth i Ruaidhri Smith gipio dwy wiced – Kieran Noema-Barnett wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke am bump, cyn i Benny Howell gael ei ddal wrth yrru’n syth at Michael Hogan, a’r sgôr yn 98 am bedair.

Tarodd Ryan Higgins bedwar oddi ar Andrew Salter yn niwedd y deuddegfed pelawd a tharodd Michael Klinger bedwar oddi ar Ruaidhri Smith yn y drydedd pelawd ar ddeg a chwech oddi ar Graham Wagg yn niwedd y bedwaredd ar ddeg i gyrraedd 122 am bedair.

Swydd Gaerloyw’n gyfforddus unwaith eto

Daeth hanner canred Michael Klinger oddi ar 38 o belenni gydag ergyd drwy’r slip am bedwar oddi ar Graham Wagg yn yr unfed belawd ar bymtheg.

Tarodd Ryan Higgins chwech yn niwedd y belawd, a chwech arall yn niwedd yr ail belawd ar bymtheg oddi ar Timm van der Gugten. Ond cafodd y batiwr ei redeg allan gan y capten Colin Ingram am 30 ar ddechrau’r ddeunawfed pelawd, a’i dîm yn 151 am bump.

Tarodd Jack Taylor chwech ar ochr y goes a phedwar drwy’r cyfar oddi ar Michael Hogan yn niwedd y ddeunawfed pelawd wrth i Swydd Gaerloyw gyrraedd 166 am bump.

Ond daeth chweched wiced i Forgannwg yn y bedwaredd belawd ar bymtheg, wrth i Jack Taylor gael ei ddal yn gampus gan y trydydd dyn, Timm van der Gugten oddi ar fowlio Graham Wagg am 14, a’r sgôr yn 168 am chwech.

Tarodd AJ Tye chwech oddi ar Graham Wagg cyn i Michael Klinger orffen y batiad wrth daro tri phedwar a chwech i gyrraedd 77 heb fod allan a’i dîm yn 197 am chwech.

Cyfnod clatsio Morgannwg

Wrth gwrso 198 i ennill, dechreuodd Morgannwg yn gryf yn y belawd gyntaf yn erbyn y bowliwr cyflym David Payne wrth i Aneurin Donald daro chwech a dau bedwar – cyn iddo bron â’i redeg ei hun allan wrth faglu ar y llain.

Tarodd Aneurin Donald chwech oddi ar fowlio Ryan Higgins ar ôl i Usman Khawaja daro pedwar yn yr ail belawd, ac fe barhaodd y clatsio yn y drydedd pelawd wrth i Aneurin Donald yrru’n sgwâr am bedwar oddi ar David Payne.

Ond fe gafodd y batiwr ei ddal yn gampus gan y bowliwr am 26, a Morgannwg yn 34 am un ar ôl tair pelawd.

Parhau i glatsio wnaeth y capten Colin Ingram wrth daro dau chwech a dau bedwar oddi ar pelenni olynol gan David Payne yn niwedd y bumed pelawd i gyrraedd 56 am un.

Tarodd Usman Khawaja chwech a dau bedwar oddi ar belenni olynol yn y chweched pelawd wrth i Forgannwg gyrraedd 72 am un ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Wicedi allweddol

Ond ar ôl taro chwech, fe gafodd yr Awstraliad ei ddal yn safle’r goes fain gan David Payne oddi ar fowlio Tom Smith am 33 yn yr wythfed pelawd, a’r sgôr yn 89 am ddwy.

Dim ond un sgoriodd ei gydwladwr Joe Burns cyn cael ei ddal gan Tom Smith wrth dynnu pelen gan Benny Howell yn niwedd y nawfed pelawd, a’r sgôr yn 93 am dair, ac yn 102 erbyn hanner ffordd trwy’r batiad.

Ond buan y collodd Colin Ingram ei wiced, wedi’i ddal gan Ryan Higgins oddi ar ei fowlio’i hun am 38, a Morgannwg yn 108 am bedair yn y deuddegfed pelawd. Ac fe ddilynodd Kiran Carlson ddwy belawd yn ddiweddarach wrth ddarganfod Ian Cockbain ar y ffin oddi ar fowlio AJ Tye am 19, a’r sgôr yn 127 am bump.

Roedd Morgannwg yn 136 am chwech pan yrrodd Chris Cooke at yr eilydd o faeswr Chris Dent oddi ar fowlio AJ Tye am 11 yn niwedd yr unfed belawd ar bymtheg, ac yn 137 am saith wrth i Graham Wagg gael ei ddal gan Ian Cockbain ar y ffin oddi ar fowlio Ryan Higgins am bedwar.

145 am wyth oedd y sgôr ar ddechrau’r ddeunawfed belawd pan gafodd Andrew Salter ei ddal gan y capten Michael Klinger oddi ar fowlio AJ Tye am un, a’r bowliwr yn gorffen gyda thair wiced am 17.

Daeth y nawfed wiced yn y belawd olaf ond un, wrth i Timm van der Gugten gael ei ddal gan Michael Klinger oddi ar fowlio Ryan Higgins am bump, a’r sgôr yn 153.