Mae Morgannwg wedi colli o fatiad a 154 o rediadau yn ystod ail sesiwn ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yn Hove.

Cawson nhw eu bowlio allan ddwywaith mewn llai na dwy sesiwn.

Cawson nhw eu bowlio allan am 88 yn eu hail fatiad, ar ôl cael eu bowlio allan am 85 yn y batiad cyntaf erbyn amser cinio.

Cipiodd y bowliwr cyflym Jofra Archer wyth wiced yn yr ornest – pedair am 15 yn y batiad cyntaf a phedair am 31 yn yr ail fatiad.

Manylion yr ail ddiwrnod

3.5 pelawd yn unig gymerodd hi i’r Saeson gipio’r wiced gyntaf ar ddechrau’r ail ddiwrnod, wrth i Jofra Archer fowlio Jack Murphy am ddau.

Daeth ail a thrydedd wiced y bowliwr cyflym o fewn tair pelen yn ei drydedd pelawd, wrth iddo fowlio Nick Selman am naw, cyn roi daliad i’r wicedwr Ben Brown i waredu’r Awstraliad Usman Khawaja heb sgorio.

Roedden nhw’n 11 am bedair yn y seithfed pelawd wrth i Ollie Robinson daro coes Connor Brown o flaen y wiced heb fod yntau wedi sgorio ychwaith.

Cwympodd y bumed wiced o fewn dim o dro, wrth i Kiran Carlson ergydio i Phil Salt yn y slip oddi ar fowlio Jofra Archer am dri, a’r sgôr yn 15 am bump ac Archer erbyn hynny wedi cipio pedair wiced am bedwar rhediad o fewn 11 o belenni.

Daeth y chweched wiced gyda’r sgôr yn 34, wrth i Jeremy Lawlor ddarganfod menyg y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Chris Jordan am chwech. Roedden nhw, bryd hynny, mewn perygl o sgorio’u cyfanswm isaf erioed – 41, yn 1925 – yn erbyn Sussex.

Adeiladodd Chris Cooke ac Andrew Salter bartneriaeth o 26 am y seithfed wiced cyn i Salter daro’r bêl i lawr corn gwddf Jofra Archer ar ochr y goes wrth yrru’n syth oddi ar fowlio Chris Jordan. Sgoriodd y batiwr naw rhediad, a sgôr Morgannwg erbyn hynny’n 60 am saith.

Roedden nhw’n 66 am wyth pan gafodd Timm van der Gugten ei fowlio gan Chris Jordan, wrth i’r bêl wyro a gwasgaru’r ffyn ar draws y llain. A chwympodd y nawfed wiced ar 68 pan gafodd Chris Cooke ei fowlio gan David Wiese am 32, wrth i’r bowliwr gipio tri chanfed wiced dosbarth cyntaf ei yrfa.

Daeth y batiad i ben dan gwmwl o ddryswch wrth i Lukas Carey gael ei redeg allan gan Danny Briggs am 17. Mentrodd y batwyr am sengl annhebygol a chael eu hunain ynghanol y llain wrth i’r maeswr daro’r wiced, a Morgannwg i gyd allan am 85.

Canlyn ymlaen

Yr un hen stori oedd hi wrth i Forgannwg ganlyn ymlaen, ar ei hôl hi o 282, a cholli eu wiced gyntaf yn y drydedd pelawd, wrth i Ollie Robinson fowlio Nick Selman am ddwy, a’r sgôr yn saith am un.

Roedd Jack Murphy allan heb sgorio yn y belawd ganlynol, wrth roi daliad syml i’r wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Jofra Archer, a’r sgôr yn wyth am ddwy.

Tarodd Jofra Archer goes Connor Brown o flaen y wiced am dri, wrth i Forgannwg lithro i 15 am dair ac fe dynnodd Usman Khawaja y bêl i gyfeiriad Phil Salt oddi ar fowlio David Wiese am 19, a’r Cymry bellach yn 36 am bedair.

Cwympodd y bumed wiced wrth i Chris Cooke gael ei ddal yn y slip gan Phil Salt oddi ar fowlio Chris Jordan, ac roedd Morgannwg erbyn hynny ar ei hôl hi o 198.

Daeth y chweched wiced wrth i Jeremy Lawlor gael ei fowlio gan Chris Jordan am ddau, a’r sgôr yn 54 am chwech, ac roedden nhw’n 70 am saith pan gafodd Kiran Carlson ei fowlio gan Ollie Robinson am 22.

Cwympodd yr wythfed wiced ar 76 pan gafodd Andrew Salter ei ddal gan y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Jofra Archer am ddau, ac fe ddilynodd Timm van der Gugten yn fuan wedyn, wrth i Ollie Robinson daro’i goes o flaen y wiced am chwech, a’r sgôr yn 80 am naw.

Cafodd Lukas Carey ei fowlio gan Jofra Archer am bedwar i ddod â’r ornest i ben, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 88, a cholli o fatiad a 154 o rhediadau.