Mae’r ddau Gymro, Connor Brown a Jack Murphy yn dychwelyd i garfan Morgannwg ar gyfer y daith i Hove i herio Sussex mewn gêm Bencampwriaeth o dan y llifoleuadau sy’n dechrau heddiw (2 o’r gloch).

Mae Nick Selman hefyd yn dychwelyd i’r garfan.

Dydy’r tri ddim wedi chwarae yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast hyd yn hyn.

Fe fydd y gêm hon yn cael ei chwarae â phêl binc – y trydydd gêm o’r fath yn hanes Morgannwg.

Yn 2011, curodd Morgannwg Swydd Gaint o wyth wiced o dan y llifoleuadau yng Nghaergaint, tra bod Swydd Derby yn fuddugol o 39 rhediad yn y gêm o dan y llifoleuadau yng Nghaerdydd y tymor diwethaf.

Yn ôl y capten Michael Hogan, fe fydd rhaid i Forgannwg addasu’n gyflym ar ôl bod yn chwarae mewn gemau undydd â’r bêl wen yn ddiweddar.

“Ry’n ni’n ceisio gwella, a does dim amheuaeth y gallwn ni wella dipyn mewn rhai meysydd,” meddai’r capten.

“Ry’n ni eisiau ennill pob gêm ry’n ni’n chwarae ynddi, mae hi mor syml â hynny.

“Mae’n bosib y bydd rhaid i ni wneud ambell newid oherwydd anafiadau, yn anffodus, ond mae’n gyfle i’r talentau ifanc ddod drwodd a dangos eu doniau ar y llwyfan dosbarth cyntaf.”

Cymry yw saith allan o’r deuddeg sydd wedi cael eu henwi yn y garfan.

Usman Khawaja

Ond fe fydd cryn dipyn o sylw’n cael ei roi i’r batiwr llaw chwith o Awstralia, Usman Khawaja wrth iddo aros gyda’r sir yn absenoldeb Shaun Marsh, sydd wedi dychwelyd i Awstralia i dderbyn triniaeth ar ei ysgwydd.

Usman Khawaja yw’r chwaraewr cyntaf yn hanes Morgannwg i sgorio canred yn ei dair gêm Bencampwriaeth i’r sir ac yn ôl Michael Hogan, sydd hefyd yn enedigol o Awstralia, does dim rheswm pam na all y batiwr ymestyn y record honno.

“Mae e ar dân yn y Bencampwriaeth. Mae e’n chwarae’n dda ac fe chwaraeodd e’n dda eto [yn erbyn Gwlad yr Haf] felly byddai’n gyflawniad gwych iddo fe.

“Mae e’n chwaraewr o safon, felly gobeithio y gall e gael pedwar [canred] yn olynol, ond pam ddim pump?”

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill gêm Bencampwriaeth oddi cartref yn Sussex ers 1975, pan darodd Roger Davis ganred yn Hove cyn i Tony Cordle a John Solanky gipio saith wiced rhyngddyn nhw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth o 96 rhediad.

Yn y gêm Bencampwriaeth ddiwethaf rhwng y ddwy sir yn Hove yn 2016, tarodd Ed Joyce, Luke Wells a Ben Brown ganred yr un i’r Saeson cyn i’r Cymro David Lloyd daro canred i Forgannwg i sicrhau gêm gyfartal.

Yn 2010, cafodd yr ornest ei heffeithio’n sylweddol gan y glaw ar y ddau ddiwrnod cyntaf cyn i Mark Cosgrove, batiwr tramor Morgannwg, daro canred cyn i Huw Waters a James Harris serennu gyda’r bêl. Tarodd y diweddar Tom Maynard 69 i osod nod o 261 i Sussex am y fuddugoliaeth – ond daeth yr ornest i ben yn gyfartal.

Sussex oedd yn fuddugol yn 1996, 1998, 2000 a 2005, a’r gêm ddiweddaraf honno’n grasfa wrth i’r troellwr coes o Bacistan, Mushtaq Ahmed gosbi’r Cymry wrth arwain ei dîm i fuddugoliaeth o naw wiced o fewn dau ddiwrnod.

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sussex yng Nghymru ers y fuddugoliaeth yn Llandrillo-yn-Rhos yn 2000.

Mae carfan Sussex y tro hwn yn cynnwys Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan.

Sussex: L Wells, P Salt, T Haines, H Finch, B Brown (capten), M Burgess, D Wiese, J Archer, C Jordan, O Robinson, D Briggs

Morgannwg: C Brown, N Selman, U Khawaja, J Murphy, C Cooke, K Carlson, J Lawlor, A Salter, L Carey, T van der Gugten, M Hogan (capten).

Sgorfwrdd