Roedd partneriaeth o 97 rhwng James Hildreth (56 heb fod allan) a Corey Anderson (59) am y bumed wiced yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 30 rhediad i Wlad yr Haf yn erbyn Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Ngerddi Sophia neithiwr.

Mae’r canlyniad yn golygu bod y Saeson wedi codi uwchben y Cymry yn y tabl, a bod Morgannwg bellach wedi ennill dwy gêm a cholli dwy.

Dechrau da i Forgannwg

Y Cymry achubodd y blaen ar yr ymwelwyr yn nechrau’r ornest a gafodd ei heffeithio gan y glaw.

Cipiodd Morgannwg dair wiced am 45 yn ystod y cyfnod clatsio i roi pwysau ar yr ymwelwyr ar ôl eu gwahodd i fatio.

Cipiodd Kiran Carlson ddau ddaliad ar y ffin ar ochr y goes oddi ar pelenni olynol.

Michael Hogan gipiodd wiced Steven Davies yn y bumed pelawd, cyn i Timm van der Gugten gipio wiced Johann Myburgh yn y chweched cyn gwaredu Peter Trego hefyd, wrth iddo gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke.

Bachodd Tom Abell belen Timm van der Gugten yn fuan wedyn i roi ail ddaliad i’r wicedwr, oedd wedi gorfod rhedeg am yn ôl i ddal ei afael ar y bêl uchel.

Erbyn hynny, roedd yr ymwelwyr mewn trafferthion ar 59 am bedair, a’r bowliwr yn gorffen gyda thair wiced am 36.

Partneriaeth allweddol

Daeth James Hildreth a Corey Anderson at ei gilydd yn y nawfed pelawd wrth geisio adfer y batiad i Wlad yr Haf, ac fe sgorion nhw 97 mewn 8.1 pelawd.

Tarodd Corey Anderson ddau chwech oddi ar belawdau olynol gan y troellwr Andrew Salter yn fuan ar ôl cyrraedd partneriaeth o hanner cant yn y drydedd pelawd ar ddeg.

Tarodd Corey Anderson ei drydydd chwech oddi ar fowlio Craig Meschede oddi ar belen ola’r bymthegfed pelawd, ond fe darodd Morgannwg yn ôl o fewn dim o dro i waredu’r batiwr, wedi’i ddal ar ymyl y cylch ar ochr y goes gan Kiran Carlson am 59.

Yn ystod ei fatiad, tarodd e chwe phedwar a phedwar chwech.

Llygedyn o obaith i Forgannwg

Llifodd y rhediadau unwaith eto wrth i James Hildreth gyrraedd ei hanner canred oddi ar 31 o belenni, cyn i Lewis Gregory gael ei ollwng yn sgwâr ar ochr y goes gan Joe Burns, wrth i’r ymwelwyr orffen eu batiad ar 190 am bump.

Wrth gwrso 191 am y fuddugoliaeth, chwe phelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg golli eu wiced gyntaf, wrth i’r troellwr coes Max Waller daro coes Aneurin Donald o flaen y wiced am un.

Daeth sefydlogrwydd i’r Cymry pan ddaeth y capten Colin Ingram a’r Awstraliad Usman Khawaja at ei gilydd, a tharo cyfres o ergydion i’r ffin yn niwedd y cyfnod clatsio.

Ond tarodd Colin Ingram belen gan Craig Overton i’r maeswr ar ymyl y cylch ar ochr y goes i adael y Cymry mewn rhywfaint o drafferth ar 52 am ddwy.

Daeth yr Awstraliad Joe Burns i’r llain am y tro cyntaf yng nghrys Morgannwg a’r pen arall, fe wnaeth Usman Khawaja barhau i daro ergydion i’r ffin i arwain Morgannwg i 66 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Dechrau’r diwedd

Ond collodd Joe Burns ei wiced pan gamodd e i lawr y llain a chael ei dwyllo gan y troellwr llaw chwith Roelof van der Merwe i roi stympiad syml i’r wicedwr Steven Davies.

Tro Roelof van der Merwe oedd hi wedyn i ddisgleirio fel maeswr, wrth ddal Usman Khawaja oddi ar fowlio’r troellwr Johann Myburgh i adael Morgannwg yn 86 am bedair.

Roedd angen 107 o rediadau ar Forgannwg erbyn hanner ffordd trwy’r batiad ac roedd hi’n edrych yn annhebygol pan gafodd Chris Cooke ei ddal ar y ffin ar ochr y goes wrth yrru’n syth at Roelof van der Merwe oddi ar fowlio Max Waller am bedwar.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 104 am bump, ac roedd angen 87 rhediad arnyn nhw o hyd am y fuddugoliaeth.

Cafodd Kiran Carlson ei ollwng gan Johann Myburgh oddi ar fowlio Jamie Overton cyn i’r batiwr dynnu’r bêl am chwech anferth dros ben y brawd Overton arall, Craig.

Ond fe gafodd y batiwr ei ddal yn fuan wedyn ar y ffin yn y cyfar gan Lewis Gregory am 33, a Morgannwg yn 118 am chwech.

Cafodd Graham Wagg ei ddal ar y ffin ar yr ochr agored wrth yrru at Tom Abell oddi ar fowlio Roelof van der Merwe yn yr ail belawd ar bymtheg, a’r Cymry’n 130 am saith.

Ond tarodd Craig Meschede chwech anferth i ganol yr eisteddle oddi ar fowlio Jamie Overton cyn cael ei redeg allan gan y wicedwr Steven Davies am ddeg.

Cafodd Andrew Salter ei ddal wedyn gan Roelof van der Merwe oddi ar fowlio Craig Overton am wyth, a Morgannwg yn 150 am naw yn y belawd olaf ond un, a’r nod yn rhy fawr yn y pen draw.