Llwyddodd Morgannwg i guro Swydd Essex oddi ar belen ola’r ornest ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Chelmsford neithiwr (nos Wener, Gorffennaf 14).

Daeth y fuddugoliaeth yn bennaf diolch i’r wicedwr Chris Cooke, a darodd 60 oddi ar 29 o belenni yn niwedd y batiad i sicrhau’r fuddugoliaeth o ddwy wiced – eu hail yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Ac fe ergydiodd e i’r ffin am bedwar oddi ar y belen olaf pan oedd angen dau rediad i ennill. Tarodd e bedwar chwech a thri phedwar i gyd, ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 61 am y nawfed wiced oddi ar 28 o belenni gyda Timm van der Gugten.

Batio’r Saeson

Un o’r ychydig elfennau positif i’r Saeson oedd perfformiad y troellwr coes o Awstralia, Adam Zampa a gipiodd dair wiced am 16, a hynny ar ôl i’w dîm gael eu bowlio allan am 167 ar ôl colli wyth wiced am 50 rhediad mewn 40 o belenni.

Cyn hynny roedd Adam Wheater a Varun Chopra wedi adeiladu partneriaeth agoriadol o 48, cyn i Tom Westley a’r capten Ryan ten Doeschate ychwanegu 62 am y bedwaredd wiced.

Ond dechrau’r diwedd oedd colli Ravi Bopara a Ryan ten Doeschate oddi ar pelenni olynol ac fe gafodd dau o fatwyr y Saeson eu rhedeg allan gan David Lloyd yn y belawd olaf.

Ymateb y Cymry

Dechreuodd Morgannwg yn gryf wrth gwrso 168 i ennill, ond fe gollon nhw Usman Khawaja oddi ar fowlio Neil Wagner, wedi’i ddal gan y wicedwr Adam Wheater, a Colin Ingram oddi ar fowlio Adam Zampa, wedi’i ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Varun Chopra.

Cafodd y Cymro amryddawn David Lloyd ei fowlio gan Adam Zampa cyn i Aneurin Donald gael ei ollwng ar 27. Ond buan y collodd y batiwr ei wiced pan gafodd ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Simon Harmer oddi ar fowlio Neil Wagner am 37.

Sam Cook gipiodd wiced Kiran Carlson am 23 wedyn, wedi’i ddal yn safle’r trydydd dyn gan Adam Zampa.

Cafodd Graham Wagg ac Andrew Salter eu bowlio gan Ravi Bopara oddi ar belenni olynol wrth i Forgannwg lithro i 107 am saith, 61 o rediadau’n brin o’r nod gyda 5.4 o belawdau’n weddill.

Ar drothwy’r fuddugoliaeth

Cafodd Craig Meschede ei fowlio gan Adam Zampa cyn i Chris Cooke gymryd rheolaeth o’r sefyllfa a tharo cyfres o ergydion am chwech oddi ar Neil Wagner a Ravi Bopara, gan gyrraedd ei hanner canred oddi ar 24 o belenni.

Y belawd olaf dyngedfennol

11 oedd y nod oddi ar y belawd olaf, felly, ac fe gafodd Chris Cooke un oddi ar y belen gyntaf, a Timm van der Gugten un oddi ar yr ail belen – pelen lydan.

Aeth wyth oddi ar bum pelen yn chwech oddi ar bedair, ac i bump oddi ar dair a phedwar oddi ar ddwy.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar ôl pelen lydan cyn i Chris Cooke daro pedwar i gyrraedd y nod yn ddiogel.

‘Rhywfaint o drafferth’

Ar ddiwedd yr ornest, mynegodd Chris Cooke ei ryddhad o sicrhau’r fuddugoliaeth, gan ddweud bod Morgannwg mewn “rhywfaint o drafferth” ar ôl colli wicedi cynnar.

“Ond dyna natur criced T20, am wn i,” meddai. “Gall newid mor gyflym, yn enwedig gyda ffiniau bychain fel hyn a llain dda.

“Y gwir oedd fod rhaid i rywun gael ychydig o lwc. Yn ffodus iawn heno, fi oedd hwnnw!”

Wrth drafod pwysigrwydd y fuddugoliaeth, ychwanegodd: “Mae’n fuddugoliaeth fawr i ni oherwydd fe gollon ni Shaun Marsh yr wythnos ddiwethaf, a Marchant de Lange yr wythnos hon, felly mae gyda ni fois ifainc yn dod i mewn.”

Ychwanegodd y byddai sicrhau’r fuddugoliaeth yn Chelmsford yn “rhoi tipyn o hyder i’r garfan hon wrth symud ymlaen”.

“Fe gyrhaeddon ni Ddiwrnod y Ffeinals y llynedd, felly dyna’r nod yn sicr.”

Mae Morgannwg bellach yn bumed yn y tabl ar ôl ennill dwy a cholli un o’u tair gêm gyntaf.