Mae Jeremy Lawlor wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y daith i herio Swydd Essex yn Chelmsford yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Wener, 7 o’r gloch).

Fe gafodd y batiwr o Awstralia anaf i’w ysgwydd wrth faesu’r bêl yn ystod yr ornest yn erbyn Swydd Sussex ddydd Sul, sy’n golygu ei fod e allan am weddill y gystadleuaeth.

Dydy Jeremy Lawlor erioed wedi chwarae i Forgannwg mewn gêm ugain pelawd o’r blaen.

Mae newyddion gwell i’r Cymry wrth i’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede gael ei gynnwys unwaith eto, ac yntau’n parhau i wella o anaf i’w goes.

Gemau’r gorffennol

Fe wnaeth e sicrhau buddugoliaeth dros Swydd Essex y tymor diwethaf, wrth daro chwech oddi ar belen ola’r gêm, ac fe chwaraeodd e yn y gêm agoriadol y tymor hwn yn erbyn Swydd Hampshire.

Un arall oedd yn allweddol yn y fuddugoliaeth honno oedd y capten Colin Ingram, a darodd 114 wrth i Forgannwg lwyddo i gwrso 220, sy’n record o sgôr.

Fe darodd e ganred y tymor blaenorol hefyd, oddi ar 56 o belenni, wrth i’r ornest ddod i ben yn gynnar oherwydd y glaw.

Ond y Saeson oedd yn fuddugol yn y gemau ugain pelawd yn 2013, 2014 a 2015.

Tîm Swydd Essex: V Chopra, A Wheater, T Westley, R Bopara, R ten Doeschate (capten), D Lawrence, S Harmer, N Wagner, A Zampa, S Cook, J Porter

Tîm Morgannwg: U Khawaja, K Carlson, C Ingram (capten), A Donald, C Cooke, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, A Salter, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd