Fe fydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio am ddechrau da i gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth iddyn nhw deithio i Southampton i herio Swydd Hampshire heno.

Ar ôl methu â mynd ymhellach na’r grwpiau yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, a dechrau siomedig yn y Bencampwriaeth, hon yw’r cyfle olaf i’r Cymry geisio ennill tlws y tymor hwn.

Ac fe fyddan nhw’n gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf, pan gyrhaeddon nhw Ddiwrnod y Ffeinals yn Edgbaston cyn colli yn erbyn Swydd Warwick yn y rownd gyn-derfynol.

Hwb i’r garfan

Mae disgwyl i’r ddau Awstraliad, Shaun Marsh ac Usman Khawaja agor y batio, ac i’r capten Colin Ingram fatio’n drydydd mewn tîm sydd hefyd yn cynnwys nifer o Gymry ifainc.

Mae Aneurin Donald a David Lloyd yn dychwelyd, ynghyd â’r bowliwr cyflym Craig Meschede, sydd wedi’i gynnwys am y tro cyntaf eleni ar ôl gwella o anaf i’w goes.

Ond mae’r bowliwr cyflym Marchant de Lange allan ar ôl anafu llinyn y gâr.

Gemau’r gorffennol

Collodd Morgannwg yn yr Ageas Bowl yn Southampton y tymor diwethaf, wrth i’r troellwr coes Mason Crane gipio tair wiced am 21 – ond mae e wedi’i anafu y tro hwn. Tarodd James Vince 60 gyda’r bat i sicrhau buddugoliaeth o wyth wiced.

Y troellwr Liam Dawson oedd seren y gêm ddwy flynedd yn ôl, wrth gipio pedair wiced i sicrhau buddugoliaeth i’r Saeson o 25 o rediadau.

Ond y Cymry oedd yn fuddugol o ddeg rhediad yn Southampton yn 2014 diolch i Will Owen (tair wiced am 32), ac yn 2015 diolch i’r capten Jacques Rudolph, a darodd 77 gyda’r bat i sicrhau buddugoliaeth o 23 o rediadau.

Carfan Swydd Hampshire: T Alsop, R Roussouw, C Munro, J Vince (capten), S Northeast, L Dawson, J Weatherley, S Ervine, L McManus, R Stevenson, G Berg, C Wood, K Abbott, Mujeeb ur Rahman

 Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), A Donald, D Lloyd, U Khawaja, K Carlson, S Marsh, C Cooke, A Salter, G Wagg, C Meschede, T van der Gugten, R Smith, L Carey, M Hogan