Fe fydd angen ymdrech arwrol gan fatwyr Morgannwg ar y diwrnod olaf heddiw i achub eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd.

Wrth gwrso 434 i ennill, mae’r Cymry’n ail-ddechrau ar 121 am bedair yn erbyn y Saeson, sydd ar waelod yr ail adran ond sy’n mynd am eu hail fuddugoliaeth yn olynol i symud uwchben y Cymry yn y tabl.

Fel sy’n nodweddiadol o lain griced erbyn diwedd gêm, mae tipyn o gymorth i’r bowlwyr cyflym ac mae ambell belen yn dechrau troi i’r troellwyr.

Record o bartneriaeth

Torrodd batwyr agoriadol Swydd Northampton, Ben Duckett a Luke Procter, record y sir am y bartneriaeth fwyaf erioed yn erbyn Morgannwg, wrth i’w 208 fynd y tu hwnt i record flaenorol Brian Reynolds a Mickey Norman o 198 yn 1962.

Ond fe gollodd Luke Procter ei wiced am 70 wrth i Timm van der Gugten ddarganfod ymyl ei fat i roi daliad i’r wicedwr Chris Cooke.

Dair pelawd yn ddiweddarach, daeth batiad Ben Duckett o 133 oddi ar 154 o belenni i ben pan darodd e ergyd gam at Owen Morgan oddi ar belen fer oddi ar fowlio Ruaidhri Smith. Tarodd e 22 pedwar yn ei fatiad.

Y Saeson yn ymestyn eu mantais

Dim ond saith rhediad gafodd eu hychwanegu cyn i Alex Wakely yrru at Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio Timm van der Gugten.

Tarodd y troellwr Andrew Salter goes Richard Levi o flaen y wiced cyn i Ruaidhri Smith gipio wiced Adam Rossington yn yr un modd yn fuan wedyn, a’r Saeson yn 246 am bump.

Daeth Ricardo Vasconcelos a Steven Crook at ei gilydd ac adeiladu partneriaeth o 147 i ymestyn mantais y Saeson y tu hwnt i 300. Ond aeth y ddau fatiwr o fewn dim o dro, wrth i Ruaidhri Smith gipio dau wiced, gan fowlio Crook am 76, cyn i Vasconcelos gael ei ddal yn y slip gan Nick Selman am 79.

Collodd Seekkuge Prasanna a Nathan Buck eu wicedi i’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya, y naill â’i goes o flaen y wiced am un a’r llall wedi’i ddal gan Andrew Salter am chwech cyn i’r Saeson gau eu batiad ar 406 am naw.

Cipiodd Ruaidhri Smith bedair wiced i Forgannwg am 75 – ei ffigurau gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.

Cwrso am fuddugoliaeth annhebygol

Pan ddechreuodd Morgannwg gwrso 434 i ennill, roedd ganddyn nhw 33 o belawdau i’w hwynebu cyn diwedd y dydd, ond roedden nhw’n 54 am ddwy o fewn 16.1 o belawdau.

Cafodd Nick Selman ei ddal yn sgwâr gan Steven Crook oddi ar ail belen Luke Procter cyn i Jack Murphy yrru at Brett Hutton yn y slip oddi ar fowlio Nathan Buck.

Ar ôl taro canred hanesyddol yn y batiad cyntaf, dechreuodd yr Awstraliad llaw chwith, Usman Khawaja yn gadarn yn yr ail fatiad, gan daro saith pedwar wrth iddo adeiladu partneriaeth o 57 gydag Owen Morgan.

Ond cafodd Khawaja ei ddal gan y maeswr agos ar ochr y goes, Ricardo Vasconcelos oddi ar fowlio’r troellwr coes Seekkuge Prasanna, cyn i’r un bowliwr gipio wiced Owen Morgan, wrth iddo ddarganfod dwylo diogel Richard Levi yn y slip.

Wrth y llain ar ddechrau’r diwrnod olaf mae’r batiwr ifanc o Gaerdydd, Kiran Carlson, a’r noswyliwr Timm van der Gugten, sydd newydd ennill ei gap ar ôl cyrraedd y garreg filltir o 100 wiced yn y Bencampwriaeth.

Mae angen 313 yn rhagor ar Forgannwg i gipio’r fuddugoliaeth annhebygol.

Sgorfwrdd