Mae Morgannwg dan bwysau wrth iddyn nhw ddechrau trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Swydd Northampton yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd yr ymwelwyr yn 169 heb golli wiced wrth i Ben Duckett sgorio canred cynta’r sir y tymor hwn, i roi mantais i’w dîm o 196 o rediadau.

Cafwyd perfformiad siomedig gan Forgannwg gyda’r bat a’r bêl hyd yn hyn, ac eithrio canred Usman Khawaja, y chwaraewr cyntaf erioed yn hanes y sir i sgorio canred yn ei dair gêm gyntaf i’r sir.

Wrth gyrraedd y garreg filltir, fe dorrodd e record Javed Miandad o Bacistan, a sgoriodd ddau ganred yn ei ddwy gêm gyntaf i Forgannwg yn 1980.

Roedd y batiwr llaw chwith o Awstralia eisoes wedi sgorio 125 yn erbyn Swydd Warwick yn Edgbaston, a 126 yn erbyn Swydd Derby yn Abertawe y tymor hwn.

Fe gyrhaeddodd ei ganred oddi ar 138 o belenni, gan daro 16 pedwar a dau chwech cyn cael ei ddal am 103 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 254 – 27 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cynta’r ymwelwyr.

Batio gwael…

Cipiodd Luke Procter ddwy o wicedi cynnar Morgannwg wrth i’r Cymry gyrraedd 115 am dair erbyn amser cinio ar yr ail ddiwrnod, wrth ymateb i gyfanswm batiad cynta’r ymwelwyr o 281.

Nick Selman oedd y batiwr cyntaf allan, am 29, wrth roi daliad i’r wicedwr Adam Rossington oddi ar fowlio Ben Sanderson.

Tarodd Luke Procter goes Jack Murphy o flaen y wiced am 21 oddi ar ei ail belen cyn i Owen Morgan gael ei ddal gan y wicedwr am 21 ar ôl taro pedwar pedwar.

Tarodd Ben Sanderson goes Kiran Carlson o flaen y wiced cyn bowlio Chris Cooke ddwy belen yn ddiweddarach.

Tarodd Brett Hutton goes Andrew Salter o flaen y wiced wrth i Forgannwg lithro i 195 am chwech.

Cipiodd Nathan Buck dair wiced mewn tair pelawd i gael gwared â Ruaidhri Smith, Prem Sisodiya a Timm van der Gugten, cyn i’r batiad ddod i ben pan gafodd Usman Khawaja ei ddal ar y ffin.

Ond bowlio gwaeth…

Manteisiodd batwyr agoriadol Swydd Northampton, Luke Procter a Ben Duckett ar fowlio gwael Morgannwg o’r dechrau’n deg.

Adeiladon nhw bartneriaeth ddi-guro gadarn o 169 erbyn diwedd y dydd wrth i fowlwyr Morgannwg ddioddef yn y gwres.

Cyrhaeddodd Ben Duckett ei hanner canred oddi ar 52 o belenni cyn mynd ymlaen i gyrraedd y cant oddi ar 92 o belenni.

Tarodd Luke Procter hanner canred wrth i Swydd Northampton gyrraedd 169 heb golli wiced erbyn diwedd y dydd.

Sgorfwrdd