Fe fydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar y gêm gyfartal yn erbyn Swydd Derby ar gae San Helen yn Abertawe, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Northampton i Gaerdydd heddiw.

Hon fydd y gêm Bencampwriaeth olaf cyn i sylw’r Cymry droi at gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Ar ôl gadael y cae ag anaf i’w benglin, mae’r chwaraewr amryddawn David Lloyd yn cael gorffwys, a Ruaidhri Smith yn cymryd ei le yn y garfan o ddeuddeg.

Dydi’r bowliwr cyflym Marchant de Lange ddim wedi gwella o anaf i linyn y gâr.

Yn cadw ei le, fodd bynnag, mae’r troellwr llaw chwith ifanc, Prem Sisodiya o Gaerdydd, a greodd argraff yn ei gêm gyntaf dros Forgannwg ar San Helen, wrth gipio pum wiced yn yr ornest a tharo 38 gyda’r bat yn y batiad cyntaf.

Mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten yn dychwelyd ar ôl bod yn cynrychioli’r Iseldiroedd yn erbyn yr Alban ac Iwerddon.

Gêm olaf Usman Khawaja yn y crys gwyn

Hon fydd gêm olaf Usman Khawaja yn y Bencampwriaeth, wrth i’w gyd-Awstraliad Shaun Marsh ddychwelyd ar ôl bod yn cynrychioli’r tîm cenedlaethol yn y gyfres undydd yn erbyn Lloegr.

Fe achubodd e’r gêm i Forgannwg, ynghyd â Kiran Carlson wrth iddyn nhw dorri’r record am y bartneriaeth fwyaf erioed (289) i’r sir yn erbyn Swydd Derby. A’r Awstraliad Khawaja oedd y batiwr cyntaf erioed i daro canred yn ei ddwy gêm gyntaf i Forgannwg.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg yn nawfed yn yr ail adran, tra bod Swydd Northampton ar waelod y tabl, saith pwynt y tu ôl i’r Cymry.

Mae’r Saeson yn ddi-guro yn eu dwy gêm Bencampwriaeth ddiwethaf yng Nghymru, gan ennill o saith wiced yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, ac o 251 o rediadau yn Abertawe ddwy flynedd yn ôl.

Enillodd Morgannwg yr ornest yng Nghaerdydd yn 2015 o ddeg wiced.

Morgannwg: N Selman, J Murphy, O Morgan,  U Khawaja, K Carlson, C Cooke, A Salter, P Sisodiya, T van der Gugten, R Smith, M Hogan (capten)

Swydd Northampton: L Procter, B Duckett, R Vasconcelos, A Wakely (capten), R Levi, A Rossington, S Crook, S Prasanna, N Buck, B Hutton, B Sanderson

Sgorfwrdd