Fe fydd Morgannwg yn dechrau ail ddiwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby ar gae San Helen yn Abertawe ar 175 am saith.

Roedd partneriaethau o 58 rhwng David Lloyd a Chris Cooke, ac o 52 rhwng Cooke ac Andrew Salter yn allweddol wrth i Forgannwg achub eu batiad ar ôl bod yn 52 am bump o fewn ugain pelawd cynta’r batiad ar ôl colli hanner diwrnod o griced oherwydd y glaw.

Galwodd Morgannwg yn gywir a phenderfynu batio yn erbyn Swydd Derby, ond roedden nhw’n difaru’r penderfyniad hwnnw o fewn dim o dro, wrth golli eu pum wiced gyntaf o fewn ugain pelawd.

Jack Murphy oedd y batiwr cyntaf allan, wedi’i ddal yn y slip gan Harvey Hosein oddi ar fowlio Tony Palladino am 19, a Morgannwg yn 27 am un ar ôl 10.3 pelawd.

Allan, allan, allan… 

Nick Selman oedd allan wedyn, wrth i Duanne Olivier daro’i goes o flaen y wiced am 10, ac fe gafodd ei ddilyn yn fuan wedyn gan Owen Morgan, a gafodd ei ddal gan y wicedwr Gary Wilson oddi ar fowlio Palladino am bedwar, a Morgannwg yn 35 am dair ar ôl 12.2 o belawdau.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Forgannwg pan gollon nhw eu pedwaredd wiced, wrth i Palladino fowlio Usman Khawaja am bump, a’r Cymry’n 48 am bedair ar ôl 18.1 o belawdau. Ac fe ddaeth y pumed pan gafodd Kiran Carlson ei ddal yn y slip gan Wayne Madsen oddi ar fowlio Ravi Rampaul am ddau, a’r sgôr yn 52 am bump toc cyn te.

Roedd David Lloyd a Chris Cooke wedi ychwanegu 58 am y chweched wiced pan gafodd Lloyd gael ei ddal gan y wicedwr Gary Wilson oddi ar fowlio Ravi Rampaul am 21, a Morgannwg erbyn hynny’n 110 am chwech.

Ychwanegodd Cooke ac Andrew Salter 52 cyn i Cooke gael ei fowlio gan Tony Palladino am 69, a’r sgôr yn 162 am saith.